Skip to main content

Rydyn ni eisiau i bawb deimlo croeso, a theimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel pan fyddant gyda ni.

Er mwyn helpu i greu'r profiad gorau posib i ymwelwyr, artistiaid, gwirfoddolwyr a staff, mae gennym amryw o fesurau diogelwch ar waith ar draws ein hadeilad a'n safle 24 awr y dydd. Mae'r mesurau hyn yn ein helpu i gadw ein mannau yn ddiogel wrth sicrhau bod eich ymweliad mor esmwyth â phosibl. 

Gwiriadau diogelwch

Gall pob bag fod yn destun chwiliadau diogelwch cyn mynd i mewn i'r adeilad. Er mwyn helpu i leihau amseroedd aros, gofynnwn i chi osgoi dod â bagiau mawr gyda chi lle bo hynny'n bosibl.

Ni chaniateir bagiau mwy na 42cm x 23cm x 30cm y tu mewn i'r theatr.

Nodwch na chaniateir i unrhyw un sy'n gwrthod chwiliad diogelwch ddod i mewn i'r adeilad.

Os ydych chi'n dod i berfformiad, rydyn ni’n argymell cyrraedd gyda digon o amser i ganiatáu i unrhyw wiriadau diogelwch angenrheidiol ddigwydd cyn i'r sioe ddechrau.

Teledu cylch cyfyng a chamerâu a wisgir ar y corff

Er diogelwch pawb ar y safle, mae teledu cylch cyfyng yn gweithredu ledled yr adeilad a'r ardaloedd cyfagos.

Mae camerâu a wisgir ar y corff hefyd yn cael eu defnyddio gan staff awdurdodedig lle bo'n briodol i helpu i amddiffyn ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr.

Dronau

Ni chaniateir dronau ar ein safle nac yn yr ardal gyfagos.

Trefniadau diogelwch

Rydyn ni’n adolygu ein gweithdrefnau diogelwch yn rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn briodol. O ganlyniad, gall trefniadau diogelwch newid ar fyr rybudd pan fo angen.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad wrth ein helpu ni i greu amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb.

Eich ymweliad