O'n prif theatr i'n gofod Cabaret – dewch i adnabod ein lleoliadau.
Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.
Lleoliad bach yw Stiwdio Weston, sy'n berffaith er mwyn cael teimlad agos-atoch a phersonol yn ystod cynyrchiadau bach, gwaith theatr o fri, a cherddoriaeth wych.
Glanfa yw ein gofod perfformio cyhoeddus mwyaf a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau, digwyddiadau, gosodweithiau celf, arddangosfeydd a gweithgareddau crefft i’r teulu am ddim.
Gorsaf radio wedi’i harwain gan bobl ifanc yng nghyntedd y Glanfa yw Radio Platfform.
Mae'r ystafell ymarfer fawr yma'n ofod hyblyg a ddefnyddir yn bennaf i ymarfer, cynnal gweithdai a digwyddiadau.
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.
Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).
Tŷ Dawns yw cartref y Cwmni Dawns Cenedlaethol a mae'n cael ei ddefnyddio'n bennaf fel stiwdio ddawns.