Ein gwaith
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar dair egwyddor: dod â phobl at ei gilydd, cefnogi creadigrwydd a buddsoddi mewn pobl a syniadau i feithrin dyfodol creadigrwydd yng Nghymru a thu hwnt.
Rydyn ni'n credu y gall creadigrwydd ddod â phobl at ei gilydd, datgloi potensial a llywio'r dyfodol.
Fel elusen gofrestredig, mae popeth a wnawn yn cael ei arwain gan ymrwymiad i wneud creadigrwydd yn hygyrch, perthnasol ac ystyrlon i fwy o bobl. P'un a ydych chi'n ymweld ar gyfer perfformiad, cymryd rhan mewn prosiect neu'n datblygu eich ymarfer creadigol, mae'r egwyddorion yma yn llywio popeth a wnawn...