Skip to main content

Ar lan y dwr ym Mae Caerdydd, gallwch gyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru yn y car, ar y trên, mewn bws, ar feic neu hyd yn oed ar gwch. 

Defnyddiwch y cwmplenni isod i'ch helpu i ddewis ffordd gynaliadwy o deithio. Gallwch chi ein helpu ni i gyrraedd ein targed sero net drwy wneud dewisiadau gwyrdd. 

Ein Cyfeiriad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Caerdydd, CF10 5AL

Cyfarwyddiadau

Ar y trên

Mae Great Western Railway (GWR) yn rhedeg gwasanaethau rhwng y gorllewin a gorsaf Paddington yn Llundain, gan alw yng Nghaerdydd Canolog, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gwasanaethau ledled Cymru. 

Mae gwasanaeth trên rheolaidd o orsaf Heol y Frenhines Caerdydd i'r bae sy'n rhedeg bob 12 munud ac sy'n cymryd llai na phum munud. Ewch i Wasanaeth Ymholiadau National Rail i gynllunio'ch siwrne ar y trên. 

Ar feic

Mae Bae Caerdydd wedi'i gysylltu â chanol y ddinas drwy lwybr beicio Taith Taf; chwiliwch am arwyddion Taith Taf sydd ar hyd yr afon gyferbyn â Stadiwm Principality. 

Mae llwybr beicio a llwybr cerdded hefyd ar hyd yr A4232 o Barc Manwerthu Bae Caerdydd. .

Ar gwch

Mae AquaBus yn rhedeg gwasanaeth bws dŵr o Gastell Caerdydd i'r bae. Mae'r bws dŵr yn rhedeg o ganol y ddinas i'r bae bob awr, 11am – 5pm yn ddyddiol. 

Mae’r bws dŵr yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, ac mae mynediad gwastad i deithwyr hŷn neu fregus. 

Ar fws

Mae Bws Caerdydd yn rhedeg sawl gwasanaeth i ardal Bae Caerdydd, ac mae arhosfan bws o flaen Canolfan Mileniwm Cymru. 

Mae'r BayCar yn mynd i ganol dinas Caerdydd. Mae gwasanaethau eraill yn cysylltu ledled y ddinas; ewch i wefan Bws Caerdydd i gynllunio'ch siwrne. 

Yn y car

Mae'n hawdd cyrraedd o'r tu allan i Gaerdydd ar hyd traffordd yr M4. I gael y cyfarwyddiadau mwyaf dibynadwy, rhowch ein cod post CF10 5AL yn eich dyfais llywio â lloeren. 

Os ydych chi’n dod o'r gorllewin, gadewch yr M4 ar gyffordd 33 ac ymunwch â’r A4232. O'r gogledd, dilynwch yr A470 tuag at Gaerdydd a dilynwch arwyddion i Fae Caerdydd. 

O'r dwyrain, gadewch yr M4 ar gyffordd 29 ac ymunwch â’r A48. Dilynwch arwyddion i Fae Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru. 

Parcio

Mae sawl lle i barcio'r car ym Mae Caerdydd. Mae Maes Parcio Stryd Pierhead wedi’i leoli gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Mae’r maes parcio ar agor 24 awr y dydd. Gyda system llywio â lloeren, defnyddiwch CF10 4PH neu whatthreewords: ///photos.dimes.close

I fwynhau parcio am bris gostyngedig drwy Ganolfan Mileniwm Cymru, rhaid archebu hyn cyn mynd i mewn i’r maes parcio. Mae eich tocyn parcio yn ddilys am 11 awr ar ddyddiad eich perfformiad. Nodwch mai dim ond unwaith y gallwch chi ddefnyddio’r maes parcio yn ystod pob sesiwn – ni fyddwch yn gallu gadael a mynd yn ôl i mewn gan ddefnyddio’r un tocyn.

Wrth gyrraedd, bydd y rhwystr yn codi’n awtomatig. Wrth adael y maes parcio, sganiwch y cod QR ar eich e-docyn neu’r cod bar ar eich tocyn papur wrth rwystr yr allanfa. Unwaith y byddwch chi wedi sganio’n llwyddiannus, bydd y sgrin yn troi’n wyrdd a bydd y rhwystr yn codi.

Os bydd angen cymorth arnoch, pwyswch y botwm help wrth y rhwystr i siarad ag aelod o’r tîm parcio. Mae cymorth ar gael o’r swyddfa ar y safle rhwng 8am a hanner nos. Ar ôl hanner nos, bydd y botwm help yn eich cysylltu chi â’r tîm cymorth oddi ar y safle.

Map Maes Parcio Stryd Pierhead

Mae meysydd parcio eraill yng Nghanolfan Red Dragon, Cei'r Forforwyn ac ar Stryd Havannah.

Parcio i bobl anabl

Mae gennym 17 o fannau parcio dan do y gall ymwelwyr anabl eu harchebu. Gallwch eu cyrraedd o Stryd Pierhead tu ôl i’n hadeilad. Rhaid archebu un o'r mannau hyn ymlaen llaw pan fyddwch yn archebu eich tocyn ar-lein neu drwy'r swyddfa docynnau. 

Mannau parcio anabl o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Mewn tacsi

Gallwch archebu tacsi drwy Capital Cabs (02920 777 777), Premier Cars Ltd (029 2055 5555) neu Veezu (029 2033 3333). Mae’r safle tacsis agosaf tu allan i Tesco Express yng Nghei'r Forforwyn. 

Eich ymweliad