Skip to main content

Fel cartref creadigol i bawb, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein mannau, profiadau a digwyddiadau mor hygyrch â phosib.

Rydyn ni’n chwilio bob amser am ffyrdd o gael gwared ar rwystrau, gwella hygyrchedd a chreu profiad gwell i bob un o’n hymwelwyr.

O berfformiadau hygyrch a thocynnau i gymdeithion, i gymorth clywed, mannau i gadeiriau olwyn ac ardaloedd tawel, rydyn ni yma i'ch helpu chi i fwynhau popeth sydd gennym i'w gynnig.

Os oes unrhyw beth ei angen arnoch i wneud eich ymweliad yn haws, cysylltwch â ni. Byddem ni wrth ein boddau’n  clywed gennych.

Ymunwch â'n cynllun hygyrchedd

Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o Hynt, y cynllun hygyrchedd cenedlaethol ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru.

Mae Hynt yn helpu i wneud perfformiad byw yn fwy hygyrch trwy gynnig tocyn am ddim i gynorthwyydd personol neu gydymaith pan fydd angen cefnogaeth.

Os ydych eisoes yn aelod o Hynt, rhowch wybod i ni wrth archebu. Os nad ydych chi'n aelod eto, gallwch ddarganfod mwy am ymuno trwy wefan Hynt.

Dysgwch fwy am ein cynllun hygyrchedd

Perfformiadau hygyrch

Rydyn ni’n credu y dylai pawb gael y cyfle i brofi pŵer perfformiad byw.

Dyna pam rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o berfformiadau hygyrch trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys perfformiadau gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL), capsiynau, sain ddisgrifiad a pherfformiadau ymlaciedig.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â hygyrchedd ar dudalennau digwyddiadau unigol, ac mae ein tîm bob amser yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau cyn i chi archebu.

Dysgwch fwy am ein perfformiadau hygyrch

Cynllun Blodyn Haul Anableddau Cudd

Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o'r Cynllun Blodyn Haul Anableddau Cudd.

Mae'r cynllun yn helpu pobl ag anableddau anweladwy i roi gwybod i eraill y gallai fod angen cefnogaeth, amser neu ddealltwriaeth ychwanegol arnynt. Os byddwch chi'n dewis gwisgo llinyn Blodyn Haul yn ystod eich ymweliad, bydd ein tîm yn ei adnabod ac yn barod i helpu os oes angen.

Cyfleusterau hygyrch

Dimensiynau seddi’r awditoriwm

Theatr Donald Gordon

Mae seddi Theatr Donald Gordon yn mesur oddeutu:

  • Lled: 19 modfedd
  • Dyfnder: 16 modfedd
  • Uchder: 18 modfedd o'r llawr i ben y sedd

Mae gan y seddi canlynol llai o le i goesau:

  • Rhes A, seddi 35 i 38: 47cm, 47cm, 49cm a 49cm
  • Rhes C, seddi 27 i 30: 23cm, 25cm, 26cm a 26cm
  • Rhes G, seddi 27 i 30: lleiafswm 35cm

Nodwch fod y mesuriadau hyn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.


Parcio Bathodyn Glas

Mae gennym 14 o fannau parcio dan do ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas. Gellir eu cyrraedd o Blas Bute, ar hyd Stryd Pierhead.

Mae’r mannau parcio ar gael i'w harchebu o flaen llaw ar gyfer y slotiau amser canlynol:

  • 8am i 12pm
  • 12.30pm i 5pm
  • 5.30pm tan amser cau

Mae parcio yn costio £5 y sesiwn.

Os bydd eich ymweliad yn para yn hirach nag un slot amser, bydd ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn hapus i'ch helpu i drefnu parcio addas.

I archebu man parcio, bydd angen eich rhif Bathodyn Glas arnoch wrth brynu tocynnau. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am rif cofrestru eich cerbyd cyn eich ymweliad.

Nodwch nid yw ein mannau parcio hygyrch yn addas ar gyfer bysiau mini.

Mae yna hefyd 12 o fannau parcio Bathodyn Glas am ddim ar gael ar hyd Plas Bute, yn ogystal â 92 o fannau parcio hygyrch dynodedig ym maes parcio Stryd Pierhead, Bae Caerdydd.

Llefydd i gadeiriau olwyn

Rydyn ni’n darparu llefydd i gadeiriau olwyn ledled y ganolfan a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiwallu unrhyw ofynion mynediad sydd gennych.

Os hoffech gyngor cyn archebu, bydd ein tîm yn hapus i'ch helpu i ddod o hyd i'r opsiwn seddi mwyaf addas.

Theatr Donald Gordon

Mae hyd at 22 o lefydd i gadair olwyn wedi'u lleoli ledled yr awditoriwm, gan gynnwys seddi canol y llawr, y cylch a'r cylch uchaf.

Y graddiant i’r theatr yw 1:20.

Stiwdio Weston

Nid oes grisiau yn Stiwdio Weston, a gellir ei gyrraedd trwy lifft o fynedfa Lefel 1 ar ochr ddeheuol yr adeilad.

Mae toiled neillryw hygyrch gerllaw.

Ni ellir archebu seddi penodol yn Stiwdio Weston, ac mae lle i hyd at bedair cadair olwyn a dau gydymaith yr un o flaen y seddi esgynnol.

Cabaret

Mae gan Cabaret fynedfa ar y llawr gwaelod ar ochr ddeheuol yr adeilad.

Ni ellir archebu seddi penodol, ac mae lle i hyd at 10 cadair olwyn.

Mae toiled neillryw hygyrch ar gael o fewn cyfleusterau toiled niwtral o ran rhywedd yn Cabaret.

Toiledau hygyrch

Mae toiledau hygyrch ar gael ledled yr adeilad.

Llawr gwaelod

Mae'r cyfleusterau'n cynnwys:

  • Toiledau neillryw hygyrch trosglwyddo i’r chwith
  • Toiledau neillryw hygyrch trosglwyddo i’r dde
  • Toiled ‘Changing Places’ gyda mainc newid addasadwy o ran uchder a theclyn codi

Mae'r cyfleuster ‘Changing Places’ yn darparu lle i'r person sy'n ei ddefnyddio a hyd at ddau ofalwr, gyda mynediad at ddwy ochr y toiled.

Mae gan Cabaret hefyd doiled hygyrch trosglwyddo i’r chwith yn ei gyfleusterau toiled niwtral o ran rhywedd.

Y lefelau uchaf

I ymwelwyr sy'n defnyddio seddi trosglwyddo:

Mae toiledau trosglwyddo i'r dde agosaf at:

  • Grisiau A
  • Seddi 1 i 28
  • Balconïau A, C, E a G
  • Bocsys A ac C

Mae toiledau trosglwyddo i'r chwith agosaf at:

  • Grisiau B
  • Seddi 29 i 55
  • Balconïau B, D, F ac H
  • Bocsys B a D

Ystafell dawel

Weithiau mae angen seibiant rhag sŵn a gweithgarwch adeilad prysur.

Mae ein hystafell dawel, sydd wedi'i lleoli yn ardal Glanfa ar y llawr gwaelod, yn cynnig lle tawel, preifat lle y gellir gorffwys a myfyrio. Efallai y byddwch chi'n defnyddio’r ystafell i reoleiddio mewnbwn synhwyraidd, gweddïo, bwydo ar y fron neu gymryd ychydig o amser i chi'ch hun.

Os hoffech chi ddefnyddio'r ystafell, siaradwch ag aelod o'n tîm ac fe wnawn eich helpu chi i gael mynediad iddi.

Benthyg cadair olwyn

Mae cadeiriau olwyn ar gael i'w benthyg yn ystod eich ymweliad.

I archebu un, e-bostiwch hygyrchedd@wmc.org.uk cyn i chi gyrraedd, neu siaradwch ag aelod o staff ar y diwrnod.

Er na allwn warantu y bydd cadair olwyn ar gael, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i helpu.

Clustffonau codi’r sain

Rydyn ni’n cynnig clustffonau sy’n gwella sain dros y glust a chlustffonau yn y glust i ymwelwyr a fyddai'n elwa o gefnogaeth sain ychwanegol.

Mae clustffonau ar gael p'un a ydych chi'n defnyddio cymorth clyw ai peidio y gellir eu casglu o'r Ddesg Gwybodaeth ar y llawr gwaelod, wrth ymyl Grisiau B.

Cymorth meddygol

Os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich ymweliad, siaradwch ag aelod o'n tîm.

Mae llawer o'n staff wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, a byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr help sydd ei angen arnoch cyn gynted â phosib.

Cŵn cymorth

Mae croeso i gŵn cymorth ledled ein hadeilad.

Os ydych chi'n mynychu perfformiad, mae croeso i chi ddod â’ch ci i’r awditoriwm gyda chi. Os hoffech le ychwanegol, gallwn eich helpu i ddewis seddi addas wrth archebu.

Os byddai'n well gennych i ni ofalu am eich ci cymorth yn ystod y perfformiad, rydyn ni’n hapus i drefnu hyn. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn baratoi ar gyfer eich ymweliad.

Anifeiliaid cymorth emosiynol

Dim ond cŵn cymorth sy'n cael eu caniatáu yn yr adeilad. Ni chaniateir anifeiliaid cymorth emosiynol ar hyn o bryd.

Canllawiau a mapiau y gellir eu lawrlwytho

Gall cynllunio ymlaen llaw eich helpu i deimlo'n fwy hyderus am eich ymweliad.

Rydyn ni wedi creu amrywiaeth o ganllawiau a mapiau i'ch helpu i lywio ein hadeilad a'r ardal gyfagos.