Skip to main content

Helpwch i danio ein dyfodol. Fel elusen mae angen eich cefnogaeth arnom ni. 

Bydd unrhyw gyfraniad a wnewch yn helpu i drawsnewid mwy o fywydau ifanc, meithrin talent greadigol o Gymru a gwneud yn siŵr ein bod yn gartref i bawb yn ein cymuned. Bydd pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth. 

Gallai £5 gyfrannu at gost person ifanc yn mynychu un o’n cyrsiau Platfform

Gallai £10 roi theatr yn anrheg drwy ein cynllun tocynnau cymunedol

Gallai £25 gefnogi datblygiad profiad ymdrochol

Byddai £50 yn helpu i gefnogi un person ifanc i gwblhau ein rhaglen hyfforddi Radio Platfform achrededig 

Gallai £100 helpu pobl ifanc i gynhyrchu a chyflwyno eu gwaith eu hunain, fel ein cynhyrchiad Platfform diweddar Girl-Coded

Dysgwch fwy am sut rydyn ni'n goleuo bywydau.

Helpwch i danio ein dyfodol

Singer performing with a microphone on a dark stage, blue spotlights and silhouetted audience surrounding them.

Cyfrannwch uchod neu tecstiwch AWEN i 70085 i roi £5 a llunio dyfodol creadigol disglair i Gymru.

Bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Diolch am gefnogi eich canolfan gelfyddydau genedlaethol. 

Mae negeseuon testun yn costio £5 a phris un neges cyfradd safonol. Drwy gyfrannu byddwch yn optio i mewn i glywed mwy am ein gwaith a'n hymgyrchoedd codi arian. Tecstiwch AWENNOINFO i 70085 i optio allan.

Ffyrdd eraill o gefnogi

Mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi ein cefnogi nhw, a bydd rhai ddim yn costio dim i chi.

Ond bydd pob cefnogaeth yn ein helpu ni i ddatblygu ein gwaith creadigol a chymunedol i drawsnewid mwy o fywydau. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu:

Rhodd Cymorth

Os ydych chi'n talu treth yng ngwledydd Prydain, gallwch ychwanegu 25% at unrhyw roddion rydych chi wedi'u gwneud eleni – ac yn ystod y pedair blynedd diwethaf – dim ond drwy roi tic mewn blwch.

Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn ddiweddar ond yr hoffech chi wneud, mewngofnodwch i'ch cyfrif a diweddarwch eich dewisiadau Rhodd Cymorth yn yr adran Diweddaru Manylion y Cyfrif.

Easyfundraising

Mae easyfundraising yn gweithio gyda dros 7,000 o bartneriaid a fydd yn cyfrannu rhan o’r hyn rydych chi’n ei wario at achos o’ch dewis, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd cyffrous. Fe fydden ni wrth ein boddau yn eich croesawu i’n cymuned i'n helpu i sicrhau gwasanaeth heb ei ail. E-bostiwch gwirfoddoli@wmc.org.uk i fynegi eich diddordeb neu i gael rhagor o wybodaeth.

Prynu

Mae popeth a brynwch yn Ffwrnais, ein bariau theatr a Armadilo yn helpu i ariannu ein cenhadaeth i wella mynediad at y celfyddydau a gwneud yn siŵr ein bod ni’n gartref creadigol i bawb.

Anrhegion

Bydd prynu taleb rhodd neu aelodaeth rhodd ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru yn anrheg i rywun nid yn unig yn rhoi gwên ar eu hwyneb, bydd hefyd yn ein helpu ni i gadw fflam greadigol Cymru’n fyw.