Skip to main content

Aelodaeth Gorfforaethol

Darganfyddwch gyfleoedd bythgofiadwy i syfrdanu eich cleientiaid ac ysbrydoli eich staff gyda pherfformiadau o safon fyd-eang. Taniwch eu synhwyrau, crëwch atgofion parhaol ac uwchraddiwch eich cydberthnasau busnesau i uchelderau anhygoel. Dysgwch fwy am ein lefelau aelodaeth a buddion yma.  

Cysylltwch â partner@wmc.org.uk

Cyfleoedd Noddi a Phartneriaeth Gorfforaethol

Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau o safon fyd-eang yn cynnig cyfleoedd noddi a phartneriaeth unigryw i’ch cwmni.

Drwy ddod yn bartner corfforaethol rydych chi’n ein galluogi ni i wneud mwy, bod yn fwy a chyrraedd ymhellach.

Rydyn ni’n falch i groesawu ein teulu gwerthfawr o bartneriaid sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion codi arian.

Fel elusen rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth gorfforaethol i danio ein cenhadaeth i fod yn gartref creadigol i bawb. Mae eich cefnogaeth yn darparu cyfleoedd creadigol i artistiaid, pobl ifanc a chymunedau ddod o hyd i’w llais a rhannu eu straeon. Rydyn ni’n credu bod gan greadigrwydd y pŵer i drawsnewid bywydau a dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan. Gall eich cefnogaeth ein helpu ni i wneud i hynny ddigwydd.

Mae ein sioeau o safon fyd-eang a’n rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn cynnig cyfleoedd partneriaeth a noddi unigryw i’ch cwmni. Gall ein tîm weithio gyda chi i greu pecyn wedi’i deilwra o fuddion i gefnogi gwerthoedd ac amcanion eich busnes.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i ymuno â’n teulu o bartneriaid a noddwyr gwerthfawr, a chydweithio â ni, cysylltwch â’r tîm codi arian. Gyda’n gilydd gallwn ni gael effaith ystyrlon a chyfoethogi bywydau drwy bŵer y celfyddydau.

Dysgwch am effaith eich cefnogaeth.

Cysylltwch â partner@wmc.org.uk