Skip to main content

Yn gartref i Theatr Donald Gordon, lleoliad Cabaret clos, bariau theatr sydd wedi’u gosod yn erbyn ein harysgrif eiconig ac amrywiaeth o fannau hyblyg ar gyfer digwyddiadau, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn un o ganolfannau mwyaf nodedig Cymru ar gyfer digwyddiadau.

P'un a ydych chi'n cynllunio cynhadledd, lansio cynnyrch, seremoni wobrwyo neu ddathliad, mae ein tîm digwyddiadau profiadol a’n harbenigwyr technegol yma i helpu i ddod â'ch digwyddiad yn fyw. O gyfarfodydd cyntaf i'r cymeradwyaeth olaf, byddwn ni’n gweithio gyda chi i greu profiad y bydd eich gwesteion yn ei gofio.

Fel elusen gofrestredig, mae pob archeb yn helpu i gefnogi ein gwaith gyda chymunedau, meithrin creadigrwydd a sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn parhau i fod yn gartref creadigol i bawb.

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog Bae Caerdydd, gwestai cyfagos a pharcio cyfleus yn gwneud cyrraedd yma yn hawdd i'ch gwesteion.
  • Mae cynaliadwyedd yn rhan elfennol o’r ffordd rydyn ni'n gweithio. O ynni solar a chwpanau y gellir eu hailddefnyddio i docynnau digidol, rydyn ni wedi ymrwymo i leihau ein heffaith a chreu dyfodol mwy gwyrdd. Yn 2026 enillon ni Wobr y Brenin am Fenter mewn Datblygiad Cynaliadwy, yr unig sefydliad celfyddydol yn y DU i gael yr anrhydedd yma.
  • Mae ein lleoliad ym Mae Caerdydd yn creu cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio cofiadwy, profiadau tîm a rhaglenni ymwelwyr tu hwnt i’ch digwyddiad.
  • Rydyn ni wedi bod yn lleoliad ffilmio ar gyfer cynyrchiadau eiconig gan gynnwys Doctor Who, Casualty a Gavin & Stacey.
  • Mae hud perfformio byw yn rhan annatod o’n hadeilad, ac rydyn ni’n croesawu cynyrchiadau o'r radd flaenaf ac artistiaid enwog i’n hadeilad trwy gydol y flwyddyn.