Skip to main content

Tania dy greadigrwydd gyda’n cyrsiau, hyfforddiant, profiadau a gweithdai am ddim.  

Lle bynnag wyt ti ar dy daith greadigol, mae rhywbeth yma ar dy gyfer. Darganfydda Platfform; lle i ddysgu sgiliau newydd, cysylltu â dy griw a bod yn greadigol heb wario ceiniog. Wedi’i greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.

Cyrsiau creadigol – yn arbennig i ti 

Yn galw pobl ifanc creadigol. P’un a wyt ti'n angerddol dros radio, am roi cynnig ar greu ffilmiau, awydd actio neu am ddatblygu gyrfa ddigidol greadigol, mae rhywbeth yma ar dy gyfer di!   

Pobl ifanc sy’n ysbrydoli ein cyrsiau creadigol, ac arbenigwyr y diwydiant ac arweinwyr y sector sy’n eu harwain, gan gynnwys Promo Cymru, BFI a’r Welsh Games Academy. Byddi di'n cael mynediad heb ei ail at sgiliau a chyngor o’r radd flaenaf. Yn ogystal, mae llawer o’r cyrsiau yn rhoi achrediad proffesiynol cydnabyddedig i dy helpu dy ar dy daith greadigol. 

Gwybodaeth ddefnyddiol

Pryd a ble mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal?

Byddi di'n mynychu ein cyrsiau mewn ystafelloedd pwrpasol diogel naill ai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ein chwaer-orsaf Radio Platfform ym Mhorth neu ar-lein mewn ystafelloedd hyfforddi diogel Zoom. Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru cer i’r adran ‘ymweld â ni’ ar ein gwefan.  

Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal drwy gydol y flwyddyn ac mae themâu blaenorol yn cynnwys ysgrifennu creadigol, sgrin a ffilm, graffiti, argraffu sgrin, cynhyrchu nofelau graffig, cynhyrchu radio, gemau bwrdd chwarae rôl, theatr ieuenctid, brecddawnsio, hip-hop a chynllunio gwisgoedd. Mae nifer gyfyngedig o’r cyrsiau yn cael eu cynnal gyda thiwtoriaid a gweithwyr proffesiynol sy’n arwain y cwrs yn Gymraeg. 


I bwy mae'r cyrsiau?

Mae ein cyrsiau ar agor i unrhyw un 11–25 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru. Maen nhw ar lefel sylfaenol, wedi’u teilwra ar gyfer dechreuwyr neu rhai sydd am ail-gydio yn eu sgiliau. Rydyn ni’n gweithredu rhaglen gynhwysol ac yn sicrhau bod ein cyrsiau yn agored i bawb. Os hoffet ti gymryd rhan ond yn teimlo bod angen cefnogaeth hygyrchedd ychwanegol arnat ti, mae croeso i ti gysylltu â ni drwy e-bostio platfform@wmc.org.uk.  


Pwy sy'n arwain y cyrsiau?

Yn ogystal â gweithwyr proffesiynol a gweithwyr llawrydd sy’n arwain yn y diwydiannau creadigol, rydyn ni hefyd yn cydweithio â phartneriaid i gynnig cyrsiau arbennig sy’n rhoi’r hyfforddiant orau yng Nghymru. Mae’r partneriaid yn cynnwys:    

Uchelgais y Grand Abertawe 

Welsh Games Academy  

RedBrck  

Promo Cymru 

Learnaboutfilm 

Plant y Cymoedd 

Oriel Graffiti y Boiler House 

The Printhaus 

Gofodau a stiwdios 

Wyt ti weithiau am dreulio amser mewn lle braf a chreu rhywbeth cŵl? Wyt ti am fod yn greadigol heb bwysau, mewn lle hamddenol? Rydyn ni’n gweithio ar gyfres o ofodau newydd sydd wedi’u dylunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc a fydd yn cynnwys mannau perfformio, labordai digidol, cyfleusterau cynhyrchu cerddoriaeth, llefydd i dreulio amser gyda dy griw a gorsaf radio newydd sbon – a’r cyfan ar gael i ti am ddim, bob amser! Yn y cyfamser, mae gorsaf radio dan arweiniad pobl ifanc a Stiwdio Scratch yma i ti – gofodau a gafodd eu dylunio i ddod â phobl ifanc ynghyd i rannu syniadau, treulio amser gyda’i gilydd a chreu cysylltiadau. Galwa heibio!

Mentora gyrfaol a digwyddiadau i bobl ifanc  

Wyt ti am ddatblygu gyrfa yn y sector greadigol ond heb syniad lle i ddechrau? Paid â phoeni. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau rhwydweithio, sesiynau mentora a gweithdai i dy helpu di i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y sector a fydd yn dy ysbrydoli di i dorri dy gwys dy hun. Cadwa lygad am ein digwyddiadau Life Hack blynyddol sy’n helpu pobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf yn y sector creadigol, a’n digwyddiadau Dros Nos gwych sy’n cynnwys gweithdai creadigol, gweld un o’n cynyrchiadau gwreiddiol a disgo distaw. Perffaith!