Sut i archebu tocynnau
Mae sawl ffordd i archebu tocynnau.
P'un a ydych chi'n cynllunio noson yn y theatr, archebu ar gyfer grwp neu’n trefnu rhodd i rywun arbennig, rydyn ni wedi ei gwneud hi'n hawdd archebu tocynnau yn y ffordd sy'n gweithio orau i chi.
Gallwch archebu tocynnau:
- Trwy ein tudalennau Digwyddiadur
- Drwy ffonio 029 2063 6464, dydd Llun i ddydd Gwener, 11am tan 4pm
- Yn ein hadeilad, drwy fynd i’n Pwynt Gwybodaeth (gweler yr oriau agor)
Rheoli eich archebion ar-lein
Pan fyddwch yn mewngofnodi i Fy Nghyfrif, gallwch gael mynediad at eich tocynnau, aelodaeth a hanes archebu i gyd mewn un lle.
Os oes angen help arnoch gyda'ch archeb, fe welwch atebion i lawer o gwestiynau cyffredin ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin. Ac os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, mae ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar gael ar we-sgwrs rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Angen newid eich tocynnau?
Mae cynlluniau'n newid, ac rydyn ni yma i helpu.
Os nad ydych yn gallu dod i berfformiad, gallwch gyfnewid eich tocynnau ar-lein yn rhad ac am ddim am hyd at 24 awr cyn y sioe. Yn syml, mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein a chyfnewid eich tocynnau ar gyfer perfformiad arall o'r un cynhyrchiad, neu'r un tymor Opera Cenedlaethol Cymru, yn amodol ar argaeledd.
Os ydych wedi prynu diogelwch ad-daliad ‘Secure My Booking’, bydd yn trosglwyddo'n awtomatig i'ch archeb newydd.
Gallwch hefyd gyfnewid tocynnau dros y ffôn neu wrth ein Pwynt Gwybodaeth. Codir tâl o £2.50 y tocyn, hyd at uchafswm o £10 y trafodiad.
Archebu ar gyfer grwp?
Mae rhai o’r profiadau gorau yn rhai a rennir.
P'un a ydych chi'n trefnu taith gyda ffrindiau, yn cynllunio dathliad teuluol, trefnu digwyddiad cymdeithasol gwaith neu’n cydlynu grŵp cymunedol, byddwn yn helpu i wneud y broses mor hawdd â phosibl.
Ar gyfer archebion o 10 neu fwy o bobl, ewch i'n tudalen Archebion Grŵp i ddarganfod mwy.