Radio Platfform
Yn dwli ar radio a phodlediadau? Ymuna â Radio Platfform, ein gorsaf radio dan arweiniad pobl ifanc.
Defnyddia dy lais yn Radio Platfform, ein gorsaf radio sy’n cael ei harwain yn llwyr gan bobl ifanc 11–25 oed. Os wyt ti'n frwdfrydig dros radio byw a phodlediadau neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, dyma’r lle i ti.
Dysga sgiliau sylfaenol cynhyrchu radio a phodlediadau gyda’n cyrsiau rhad ac am ddim yn ein stiwdios yng Nghaerdydd a Phorth. Byddwn ni’n addysgu popeth y mae angen i ti ei wybod i ddechrau arni, o dechnegau cyfweld i sut i beidio â chynhyrfu cyn gwneud sioe byw.
Unwaith y byddi di wedi cwblhau un o’n cyrsiau, byddi di'n gallu ymuno â’n teulu o gyflwynwyr a chreu sioeau am y pethau sydd o ddiddordeb i chi. Beth bynnag fo hynny – cerddoriaeth grime, gemau, yr amgylchedd neu rywbeth arall – dyma dy orsaf di.
Gwranda ar Radio Platfform ble bynnag yr wyt ti, ar fwrdd gwaith, ffôn symudol, llechen neu seinydd clyfar. Gwranda 'nôl ar ein sioeau diweddaraf ar Mixcloud.
Ymuna â chwrs
Darganfydda pryd mae ein cwrs Hyfforddiant Radio nesaf yng Nghaerdydd neu'r Porth.
DIGWYDDIADAU BYW A DOSBARTHIADAU MEISTR
Rydyn ni’n dwli ar gynhyrchu sioeau yn y stiwdio, ond rydyn ni hefyd yn mynd ar grwydr i gwrdd a chyfweld â cherddorion ac artistiaid mewn gigiau a gwyliau fel Gŵyl Podlediadau Llundain, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl y Gelli a Focus Wales. Gwranda: Mixcloud.
Rydyn ni’n trefnu dosbarthiadau meistr gyda gurus radio, cyfredol ac o’r gorffennol, gan ddysgu beth sydd ei angen i fod yn llwyddiannus ym myd radio. Mae ein gwesteion wedi cynnwys cyn-olygydd Radio 1 Newsbeat Rod McKenzie a Polly James o Capital Radio.
EIN STIWDIOS
Mae gennym stiwdios yng Nghaerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru) a'r Porth (Y Ffatri) lle rydyn ni’n cynnal gweithdai, recordio ein sioeau neu dreulio amser gyda’n gilydd a chwarae gêm o pŵl.
Y newyddion diweddaraf
Cysyllta â ni yn radioplatfform@wmc.org.uk os hoffet ti ddysgu mwy am Radio Platfform neu gael gwybod pan mae cyrsiau newydd ar gael.
Galli di ddod o hyd i’n hamserlenni wythnosol, clipiau o’n sioeau a holl newyddion diweddaraf Radio Platfform ar ein cyfryngau cymdeithasol.