Skip to main content

Andrew Bird - On the Edge Tour

20 Chwefror 2027
Cabaret
Andrew Bird - On the Edge Tour
20 Chwefror 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, 7pm drysau

Oed:

18+

Rhybuddion:

Iaith Gref

Andrew Bird - On the Edge Tour

Yn ôl gyda sioe newydd sbon, mae Andrew newydd gefnogi Russell Howard ar ei daith genedlaethol gan gynnwys pedair sioe yn The London Palladium. Mae hefyd wedi cefnogi Rhod Gilbert a Troy Hawke yn ddiweddar ac yng Ngwobrau Comedi’r DU yn 2023 cafodd ei bleidleisio fel ‘Comic’s Comic-Best Act’.

Mae Andrew bob amser yn poeni neu dan straen am rywbeth. O ddigwyddiadau byd-eang i ffeindio parcio am ddim. O wraig sy’n dechrau’r perimenopos a dau blentyn yn eu harddegau, i osod rac gwin. Sut all e ymlacio?

Yn ogystal â chefnogi Russell yn flaenorol yn stadiwm pêl-droed Ashton Gate Bryste, mae hefyd wedi cefnogi Rob Brydon, Brian Regan o America a Michelle Wolfe yn eu hunig sioeau yn Llundain a Michael McIntyre ar daith gyfan o arenâu gan gynnwys Wembley a’r O2.

Roedd yn un o ddim ond saith digrifwr a berfformiodd o flaen Banksy yn Dismal Land ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer cyfres ddiweddar 8 Out of 10 Cats Does Countdown.

Iechyd Da!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cabaret House Rules

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret