Gwaith Llawrydd Creadigol
Oed:
18-30
Gweithio’n llawrydd yn y celfyddydau ond yn poeni am ddelio ag arian? Neu wyt ti’n ystyried gweithio’n llawrydd a ddim yn gwybod ble i ddechrau? Cofrestra nawr!
Bob nos Fercher am 6 wythnos, byddi di’n cael cyfle i ddysgu am:
Wythnos 1: Strwythur busnes/cyfreithiol, yswiriant, rheoli dy arian ac IP creadigol
Wythnos 2: Brandio, prisio a pha fath o fodel busnes llawrydd sydd orau i ti?
Wythnos 3: Sut i ariannu dy fusnes, sut i greu cyllidebau a chynnig am waith
Wythnos 4: Marchnata, cyfryngau cymdeithasol a gwerthu
Wythnos 5: Meithrin rhwydweithiau busnes a sut i gynnig syniad
Wythnos 6: Cynnig syniadau a chynlluniau gweithredu
Bydd y cwrs yma yn cael ei gyflwyno gan Stiwdio Sefydlu Prifysgol De Cymru. Stiwdio Sefydlu yw dy le i bopeth am weithio’n llawrydd, entrepreneuriaeth a dechrau dy fusnes dy hun. Bydd y cwrs yn cynnwys y cyfle i ymweld â Stiwdio Sefydlu a gwneud cais i gael dy leoli yno fel gweithiwr llawrydd.
Pryd a ble
Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Fercher, 6–8.30pm am chwe wythnos rhwng 13 Ionawr a 17 Chwefror. Mae ar agor i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed.
Nodwch – mae pob sesiwn yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac eithrio’r sesiwn olaf ar 17 Chwefror sy’n cael ei chynnal yn Stiwdio Sefydlu.
Pam ymuno?
Cyfle am ddim yw hwn na fyddi di’n ei weld yn unrhyw le arall, a chyfle i roi sylfaen da i dy hun fel gweithiwr llawrydd creadigol, drwy elwa ar flynyddoedd o brofiad tîm Prifysgol De Cymru. Byddi di’n gadael gyda sgiliau byddi di’n gallu eu defnyddio yn y sector greadigol a thu hwnt.
Sut i ymgeisio
Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac rydyn ni’n disgwyl bydd llawer o ddiddordeb, felly rydyn ni’n gofyn i bawb lenwi ffurflen gais fer. Bydd y garfan yn cael ei dewis o’r ceisiadau yma, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i bobl sydd:
- Eisoes yn rhan o Platfform
- Yn gallu ymrwymo i ddod i bob sesiwn
Sut ydw i’n cofrestru?
Caiff llefydd eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Cofrestra drwy ein tudalen Eventbrite Yma
Hygyrchedd
Rydyn ni’n ymrwymo i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol, rhai sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad bywyd a all fod angen addasiadau, cymorth neu sensitifrwydd.
Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk
Ein Cyrsiau Platfform
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.