Skip to main content

Dance, Queen!

5 Rhagfyr 2026
Cabaret
Cocktail glass with pink umbrella on table, disco ball and blurred bar lights in the background
Dance, Queen!
5 Rhagfyr 2026, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

5pm, 2 Awr

Oed:

18+

Dance, Queen!

Yn galw breninesau dawnsio. Ymunwch â ni yn Cabaret am ddwy awr o glasuron disgo, coctels a digonedd o ddisgleirdeb.

Parti wedi’i ysbrydoli gan ABBA yw Dance Queen!, ar gyfer unrhyw un sy’n gwybod pob gair, yn dwli ar gyd-ganu neu sydd eisiau prynhawn dydd Sadwrn allan ym Mae Caerdydd. Dewch â’ch ffrindiau, gwisgwch eich esgidiau platfform a pharatowch ar gyfer parti yn llawn gliter, ffefrynnau disgo ac eiliadau cofiadwy ar y llawr dawnsio.

Mae eich tocyn yn cynnwys:

• Mynediad i'r parti Dance, Queen! yn Cabaret

• Coctel wrth gyrraedd

• DJ byw yn chwarae ffefrynnau disgo

• Paentio wynebau gyda gliter am ddim

P’un a ydych chi’n cwrdd â ffrindiau am brynhawn allan, yn gwneud diwrnod llawn ohoni ym Mae Caerdydd neu’n mynd i weld Mamma Mia!, dyma eich gwahoddiad i gofleidio eich brenhines ddawnsio fewnol.

Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly archebwch yn gynnar i osgoi colli allan.