Skip to main content

Darganfod Ysgrifennu ar gyfer Theatr gyda Temi Wilkey

5 Rhagfyr 2026 – 30 Ionawr 2027
Radio Platfform
Dau o bobl ifanc yn sgwrsio â phapurau, un yn gwisgo het las, cefndir ysgol awyr agored.
Darganfod Ysgrifennu ar gyfer Theatr gyda Temi Wilkey
5 Rhagfyr 2026 – 30 Ionawr 2027, Radio Platfform

Amser dechrau a hyd:

11am – 4pm

Oed:

16 – 25 oed

Darganfod Ysgrifennu ar gyfer Theatr gyda Temi Wilkey

Mae dy ddrama gyntaf yn dechrau yma. 

Dwli ar greu cymeriadau, bydoedd a syniadau? Wedi eisiau clywed actorion yn perfformio geiriau rwyt ti wedi eu hysgrifennu?  

Mae Darganfod Ysgrifennu ar gyfer Theatr gan Platfform yn rhaglen greadigol am ddim i bobl 16–25 oed sydd eisiau datblygu eu sgiliau adrodd straeon a chreu gwaith gwreiddiol ar gyfer y llwyfan, dan arweiniad y dramodydd arobryn Temi Wilkey.  

P’un a wyt ti wedi bod yn ysgrifennu ers blynyddoedd, yn llenwi dy ap nodiadau gyda syniadau am straeon neu erioed wedi ysgrifennu ar gyfer theatr o’r blaen, dyma dy gyfle i ddysgu gan artistiaid proffesiynol, datblygu dy ysgrifennu dy hun a chysylltu â phobl greadigol eraill.  

Beth fyddi di’n cael: 

  • Gweithdai gyda’r dramodydd arobryn Temi Wilkey, a chefnogaeth gan y dramodydd datblygol Tia-zakura Camilleri 
  • Sgiliau ymarferol i greu cymeriadau, deialog ac adrodd straeon ar gyfer y llwyfan 
  • Adborth a mentora un-i-un am dy ysgrifennu 
  • Cymorth i ddatblygu dy ddarn theatr gwreiddiol dy hun 
  • Cyfleoedd i gwrdd a chydweithio ag ysgrifenwyr a phobl greadigol eraill ifanc 
  • Y cyfle i glywed actorion yn perfformio dy waith mewn darlleniad 

Ar gyfer pwy mae’r rhaglen? 

Unrhyw un rhwng 16 a 25 oed sydd â diddordeb mewn adrodd straeon, theatr neu ysgrifennu creadigol. 

Does dim angen profiad blaenorol mewn theatr nac ysgrifennu drama. 

Pryd mae’n digwydd? 

Penwythnos 1 

Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr, 11am – 4pm 

Dod i adnabod y grŵp a darganfod sylfeini ysgrifennu ar gyfer theatr, gan gynnwys naratif, ffurf a datblygu cymeriadau. 

Dydd Sul 6 Rhagfyr, 11am – 4pm 

Pori ymhellach i adrodd straeon ar gyfer y llwyfan a darganfod beth sy’n gwneud drama un act cymhellol. 

Penwythnos 2 

Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr, 11am – 4pm 

Datblygu dy ddealltwriaeth o ddramâu un act a chael dy friff creadigol. 

Dydd Sul 13 Rhagfyr, 11am – 4pm 

Arbrofi gydag ymarferion ysgrifennu, datblygu dy syniadau a chael cymorth unigol i helpu i lunio dy brosiect. 

Cyfnod Ysgrifennu 

Rhwng mis Rhagfyr ac Ionawr, byddi di’n datblygu ac ysgrifennu golygfa o dy ddrama un act, gyda chyfleoedd i barhau i weithio yn Platfform ochr yn ochr â chyd-gyfranogwyr a chael cymorth gan Tia.  

Sesiynau Unigol Ar-lein 

Ym mis Ionawr, byddi di’n gweithio’n unigol ar dy ddarn gyda Temi i gael adborth ac arweiniad ar dy waith cyn gwneud newidiadau terfynol.  

Darlleniad 

Dydd Sadwrn 30 Ionawr 

Profi cyffro clywed actorion yn dod â dy ysgrifennu yn fyw mewn darlleniad o flaen ffrindiau a theulu.

Sut ydw i’n cofrestru?

Caiff llefydd eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Cofrestra drwy ein tudalen Eventbrite yma

Hygyrchedd

Rydyn ni’n ymrwymo i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol, rhai sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad bywyd a all fod angen addasiadau, cymorth neu sensitifrwydd. 

Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk 

Ein Cyrsiau Platfform

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.