Skip to main content

FRAMERATE: Pulse Of The Earth

gan ScanLAB Projects
27 Hydref 2026 – 10 Ionawr 2027
Annwn Ymdrochol: Bocs + Arcêd
FRAMERATE: Pulse Of The Earth
27 Hydref 2026 – 10 Ionawr 2027, Annwn Ymdrochol: Bocs + Arcêd

Amser dechrau a hyd:

Oriau agor:

Dydd Mawrth–Dydd Mercher: 12pm–6pm (Mynediad olaf am 6pm)

Dydd Iau–Dydd Sadwrn: 11am–6pm (Mynediad olaf am 6pm)

Dydd Sul: 11am–4pm (Mynediad olaf am 4pm)

Hyd:

Dolen 25 munud; mae croeso i chi aros yn y gofod o fewn y cyfnod hwnnw – yn dibynnu ar y capasiti.

Oed:

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy'n 18 oed neu'n hŷn. Mae plant dan 13 oed yn cael mynd i mewn am ddim.

Rhybuddion:

Mae'r profiad hwn yn addas ar gyfer pob oedran, ond argymhellir goruchwyliaeth gan rieni. Sylwch fod y gwaith celf yn cynnwys delweddau sy'n fflachio, a allai effeithio ar y rhai sydd ag epilepsi ffotosensitif.

FRAMERATE: Pulse Of The Earth

Mae delweddaeth hypnotig FRAMERATE: Pulse of the Earth yn tystio i dirweddau sy’n newid. Mae effaith ymddygiad dynol a grym aruthrol byd natur yn ymagor o’ch cwmpas ar draws amrywiaeth o sgriniau. Dyma ofod lle gallai eich safbwynt newid.

FRAMERATE: Pulse of the Earth yw’r rhan gyntaf yng nghyfres FRAMERATE. Mae’r gwaith yn datgelu newidiadau a achosir gan ddiwydiant dynol a rhythmau byd natur; dinistr, echdynnu, preswylio, adeiladu, cynaeafau, twf ac erydiad. Mae straeon tri dimensiwn yn datblygu ar draws y gosodwaith aml-sianel hwn. Mae delweddaeth hypnotig yn eich amgylchynu. Mae sain yn symud drwy’r gofod. Mae’r gwanwyn yn torri, mae haul yr haf yn tywynnu drwy’r dail wrth iddyn nhw droi’n euraidd a chwympo eiliad yn ddiweddarach. Mewn gardd Seisnig hardd mae pwmpen yn tyfu. Mae mil tunnell o ddur yn cael ei wasgu. Mae tywod yn llifo wrth i glogwyn encilio. Mae 268 o wartheg yn cael eu godro. Mae 519 peint yn cael eu hyfed.

Wedi’i greu o filoedd o sganiau treigl amser 3D dyddiol o dirweddau Prydain, mae’r gwaith yn arsylwi newid ar raddfa sy’n amhosib ei gweld gyda lens camera traddodiadol.

Nid dim ond gwaith celf yw hwn. Mae’r data a gasglwyd ac a gyflwynir gan FRAMERATE yn ymchwil wyddonol arloesol, sy’n cynnwys ffeithiau empirig a mesuradwy sydd wedi’u cyhoeddi yn NATURE.

Mae FRAMERATE: Pulse of the Earth yn amlygu fel celf, myfyrdod a gwyddoniaeth fel un. Bu ein tîm yn recordio safleoedd trefol, gwledig a diwydiannol mewn treigl amser 3D i’w dangos yn newid dros amser. Mae’r ddelweddaeth hypnotig sy’n deillio o hyn yn dangos newid amgylcheddol ar raddfa ofodol ac amserol. Gyda’r delweddau arloesol hyn, rydyn ni wedi creu gosodwaith unigryw wedi’n tywys gan egwyddorion pensaernïaeth, theatr, cerddoriaeth ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’r gwaith hwn yn gwahodd pobl i ystyried eu perthynas ag amser, yr amgylchedd, eu cymuned a gyda newid – gan gynnig ffordd newydd o edrych ar y byd a chysylltu â’r blaned.

Datganiad y Cyfarwyddwr

FRAMERATE is a glimpse into the future of cinema, a sobering observation, and a hopeful moment - all at once

Matthew Shaw, Co-Founder of ScanLAB

Ynglŷn â ScanLAB Projects

Stiwdio dan arweiniad artistiaid yw ScanLAB, sy’n archwilio’r byd drwy dechnolegau gweld peirianyddol; fe’i sefydlwyd yn 2010 gan Matt Shaw (g 1983) a William Trossell (g 1985).


Yn adnabyddus am eu corff uchelgeisiol a hiraethus o waith celf ffisegol a digidol crefftus a manwl, sy’n datgelu ac yn myfyrio ar harddwch, breuder, a gwytnwch, mae ScanLAB yn ein gwahodd ac yn ein herio i archwilio ein cyd-ddyfodol. Mae eu defnydd arloesol o sganio 3D ac estheteg cwmwl pwyntiau wedi mynd â nhw o amgylch y byd yn creu corff arloesol o waith sy’n myfyrio ar gymdeithas a byd natur: o hen wersylloedd crynhoi i iâ sy’n toddi yn yr Arctig, o swyddfa Stephen Hawking i flodau cactws yn Anialwch Sonora.

Mae’r arfer artistig hwn yn arwain at gyfres o weithiau ffisegol a digidol sy’n ffynnu ar ymyl creadigol gallu offeryn. Mae eu hestheteg yn darparu ffyrdd newydd o weld, deall a theimlo tu hwnt i allu ein llygaid a chamerâu traddodiadol. Mae ScanLAB yn gweithredu fel tyst, proses sydd wedi’i gwreiddio’n ailadroddus yn eu gwaith celf; gan ddiffinio’r eiliad mae ffotograffiaeth yn dod yn ofodol, mae’r gwaith yn gwasanaethu fel archif unigryw o’n planed sy’n prysur newid. Eu nod yw dogfennu a dehongli’r data a hanfod yr amgylcheddau a’r eiliadau a allai fel arall gael eu colli mewn amser.

Hygyrchedd

Mae lleoedd ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael, ond mae nifer cyfyngedig ar gyfer pob slot amser.

Gweler isod am wybodaeth am Ymweliadau Ymlaciedig:

Beth yw Ymweliad Ymlaciedig?

Bydd goleuadau’r tŷ ymlaen i ychwanegu mwy o olau i’r gofod sydd fel arfer yn dywyll. Bydd y sain ychydig yn dawelach.

Rydyn ni wedi rhaglennu sawl slot Ymweliad Ymlaciedig:

  • 11am: Dydd Gwener 4 Rhagfyr, Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr
  • 12pm: Dydd Gwener 20 Tachwedd, Dydd Mawrth 8 Rhagfyr, Dydd Mercher 23 Rhagfyr, Dydd Mawrth 29 Rhagfyr
  • 4pm: Dydd Sul 29 Tachwedd, Dydd Sul 27 Rhagfyr, Dydd Iau 7 Ionawr
  • 6pm: Dydd Iau 26 Tachwedd, Dydd Iau 17 Rhagfyr,

Beth i ddisgwyl yn ystod Ymweliad Ymlaciedig:

  • Uchafswm o 6 pherson yn y gofod fel y gallwch chi dreulio mwy o amser gyda phob un o’r gweithiau celf
  • Bydd gan staff fwy o amser i’w dreulio gyda chi os oes angen ac egluro beth i ddisgwyl
  • Mwy o opsiynau eistedd i chi orffwys ac ymlacio

Iaith

Saesneg

FAQs

Beth alla i ei ddisgwyl gan y profiad?

Mae Pulse of The Earth yn brofiad ymdrochol lle bydd gennych gyfle i weld sganiau treigl amser 3D o dirweddau a grëwyd dros gyfnodau hir. Mae’r dilyniannau’n dangos newidiadau sy’n digwydd yn rhy araf neu’n rhy gynnil i ni sylwi arnynt â’n llygaid neu â chamera arferol. I gyd-fynd â’r ddelweddaeth mae *** 

Pa mor hir yw’r profiad?

Mae’r profiad yn 28 munud o hyd ond caiff ei chwarae’n gylchol, ac mae croeso i chi aros mor hir ag y dymunwch.

Pa offer sydd ei angen i gymryd rhan yn y profiad?

Does dim angen offer, profiad taflunio yw hwn.

Oes staff wrth law drwy gydol y profiad?

Oes, bydd staff Bocs ar gael i’ch tywys a’ch cefnogi drwy’r profiad cyfan yn Bocs. 

Ydy’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig?

Ydy, mae’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) er mwyn i ni allu darparu ar eich cyfer. 

A yw’r profiad yn hygyrch i blant?

Ydy, ond mae'n rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n 18 oed neu’n hŷn.

A virtual reality headset
Wedi'i gyflwyno yn

Annwn Ymdrochol: Bocs + Arcêd

Gofodau pwrpasol ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti ymestynnol sy'n newid canfyddiadau ac yn trawsnewid meddyliau