Skip to main content

It's My Shout Awards

31 Ionawr 2027
Theatr Donald Gordon
It's My Shout Awards
31 Ionawr 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

7pm

Tua 2 awr yn cynnwys un egwyl.

Oed:

8+ (dim plant dan 2 oed)

Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.

It's My Shout Awards

Mae un o’r nosweithiau mwyaf yng nghalendr creadigol Cymru ‘nôl. Mae Gwobrau It’s My Shout yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Ionawr, i daflu sbotolau ar y doniau creu ffilmiau datblygol gorau sy’n dod allan o Gymru.

Ymunwch â ni am ddigwyddiad ysblennydd a fydd ar y teledu yn llawn glamor a charped coch yn llawn sêr. Mae’r noson yma yn dathlu blwyddyn ryfeddol o gynnwys darlledu wedi’i gynhyrchu gan It’s My Shout, gan ddod â gwesteion arbennig o’r sgrin, llwyfan a bydoedd ar-lein at ei gilydd.

Pam na allwch chi golli allan:

- Cwrdd â phobl greadigol a phobl weithredol blaenllaw yn y diwydiant

- Darganfod y genhedlaeth nesaf o ddoniau gwych ar ac oddi ar y sgrin

- Rhwydweithio a mwynhau parti yn un o ddigwyddiadau cyfryngau mwyaf hirddisgwyliedig y flwyddyn

Peidiwch â cholli eich cyfle i fod yn rhan o’r hud.

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.