Skip to main content
Berk’s Nest, mewn cydweithrediad â Sophie Chapman Talent, yn cyflwyno

Kemah Bob: Love Child

14 Mawrth 2027
Cabaret
Kemah Bob: Love Child
14 Mawrth 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

7pm, 6pm drysau

Oed:

18+

Rhybuddion:

Iaith Gref

Kemah Bob: Love Child



Jiraffod. Porn VHS. Llaeth y fron wedi’i drwytho â chetamin. Mae’r stand-yp canmoledig Kemah Bob (10 Sioe Gomedi Orau 2024 y Guardian) yn dychwelyd gyda’u hail sioe hirddisgwyliedig.

Mae Love Child yn sioe stand-yp agos atoch ond swnllyd, personol ond gwefreiddiol, a llawn egni gan Kemah Bob. Ymunwch â hi ar daith ddoniol a dryslyd drwy sut beth yw bod yn fenyw gyda gwefusau eich tad, plentyndod anhrefnus gyda rhianta amheus, gwyddoniaeth go iawn problemau epienynnol, a’i hymdrechion i lywio’r pwysau didrugaredd i fod yn Oedolyn Da™.

Enwebai Newydd-ddyfodiad Gorau Gwobr Gomedi Caeredin ESH

Fel y gwelwyd ar QI, Richard Osman's House of Games, Jonathan Ross' Comedy Club, Comedy Central Live, Don't Hate The Playaz a Guessable. Fel y clywyd ar bodlediad Off Menu.

Cyfarwyddwyd gan Alison Spittle.

This is rated 4 out of 5 stars
'A delight to witness on stage', Fest

Iechyd Da!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cabaret House Rules

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret