Skip to main content

Gorymdaith Llusernau: Goleuadau’r Byd

29 Tachwedd 2026
Gorymdaith Llusernau: Goleuadau’r Byd
29 Tachwedd 2026

Amser dechrau a hyd:

4 Awr

Gorymdaith Llusernau: Goleuadau’r Byd

Yn dathlu golau, diwylliant a chymuned yng nghanol Butetown. Am ddim ac yn agored i bawb! Cofrestrwch ar-lein i gael cawl poeth am ddim

Wrth i'r dydd fyrhau ac i'r gaeaf ddyfnhau, rydyn ni'n edrych tuag at droad y flwyddyn, y cyfnod pan fydd y noson hiraf yn ildio'i lle wrth i'r golau ddychwelyd yn raddol. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o'r cylch oesol yma, mae Goleuadau'r Byd yn dathlu'r goleuni mae pobl, diwylliannau a thraddodiadau yn ei roi i'r byd.

Bydd yr orymdaith ysblennydd yma o olau, cerddoriaeth, dawns a pherfformiadau yn digwydd ar 29 Tachwedd rhwng 5pm ac 8pm. Mae'n cael ei chyflwyno gan Ganolfan Mileniwm Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown (BACA). Bydd yn teithio o'r Basn Hirgrwn i'r Eglwys Norwyaidd cyn mynd ymlaen i lwyfan y Lanfa ar gyfer perfformiadau gan Luchia, Band Pres Melin Griffith a Chôr SOEL.

Gyda phypedau enfawr wedi'u goleuo, y Fari Lwyd, Jonkonnu Jamaicaidd a thraddodiadau o Gymru a'r byd, mae'r orymdaith yn tynnu ynghyd y llu o ddiwylliannau sy'n gwneud Butetown yn gymuned mor fywiog ac anhygoel.

Dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau er mwyn ein helpu i oleuo Butetown mewn dathliad o gyd-greadigrwydd, amrywiaeth ddiwylliannol a'r goleuni rydyn ni'n ei roi i'n gilydd.

Llu o oleuadau. Llu o ddiwylliannau. Un dathliad.

GWNEWCH EICH LLUSERN EICH HUNAN

29 Tachwedd – 3:30pm – 5:00pm

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy gwneud llusernau, o dan arweiniad yr artist Debbie Cobalt.

Yn addas i ddechreuwyr ac i deuluoedd! Llefydd yn y gweithdy ar sail y cyntaf i'r felin.

Yn y gorffennol mae ein gweithdai wedi bod yn boblogaidd iawn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar i sicrhau eich lle.

COFRESTRWCH I GAEL CAWL POETH

Byddwn yn gweini cawl poeth blasus am ddim ar ôl yr orymdaith – mae'r cawl i gyd yn figanaidd ac yn ddi-glwten fel bod pawb yn gallu ei fwynhau. Dim ond ar gael i bobl fydd wedi cofrestru ymlaen llaw!

Amser dechrau: 5pm

Mae'r digwyddiad yma am ddim ond mae angen tocyn.