Skip to main content

Matthew Bourne's Cinderella

16 – 20 Mawrth 2027
Theatr Donald Gordon
Dancing couple in vintage outfits under purple spotlights, with stars, fireworks, and a domed building in the background.
Matthew Bourne's Cinderella
16 – 20 Mawrth 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

Maw – Sad 7.30pm

Iau + Sad 2.30pm

Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys dau egwyl)

Oed:

8+ (dim plant dan 2 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion:

Mae'r cynhyrchiad yma wedi'i osod yn Llundain yn ystod Blits 1940. Mae'n cynnwys portreadau o gyrchoedd bomio, dinistrio adeiladau, seirenau a ffrwydradau drwy ddefnyddio mwg/tawch theatraidd, goleuadau strôb a synau uchel.

Matthew Bourne's Cinderella

Llundain 1940. Y Blacowt. Mae seiren yn canu…

Mae New Adventures yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda dathliad 30 mlwyddiant un o’u cynyrchiadau mwyaf poblogaidd, Matthew Bourne’s Cinderella – stori gariad gyffrous ac atgofus, wedi’i gosod yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gwyliwch y rhaglun

Gwyliwch y rhaglun

This is rated 5 out of 5 stars

A perfect treat. Glorious

Daily Telegraph

Wrth wraidd dehongliad epig Matthew Bourne o’r stori dylwyth teg glasurol mae rhamant adeg rhyfel. Mae cyfarfod ar hap yn arwain at noson hudol i Cinderella a’i pheilot ifanc anturlon, gyda’i gilydd am ddigon o amser i syrthio mewn cariad cyn cael eu gwahanu gan arswyd y Blitz.

Gyda dyluniadau gogoneddus Lez Brotherston sydd wedi ennill Gwobr Olivier, goleuo gan Neil Austin sydd wedi ennill Gwobr Olivier a dyluniadau fideo a thafluniadau gan Duncan McLean, mae Cinderella yn cynnwys dylunio sain syfrdanol gan Paul Groothuis a fydd yn mynd â’r gynulleidfa i galon sgôr gwych Prokofiev, a golygfeydd a synau Llundain adeg rhyfel.

Mae Cinderella yn deyrnged i ac yn dystiolaeth o ysbryd Llundain yn ystod adeg pan roedd pob eiliad yn cyfrif a newidiodd bywydau am byth. Mae techneg ddisglair Bourne o adrodd straeon erioed wedi bod mor emosiynol, gan greu portread unigryw a bythgofiadwy o stori debyg ond diamser.

This is rated 5 out of 5 stars

Fresh and vital, hilarious, profound and stunningly original

The Times
This is rated 5 out of 5 stars

A big-hearted ballroom blitz

The Observer

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad sain ddisgrifiad gyda Thaith Gyffwrdd: 20 Mawrth, 2.30pm (gyda Thaith Gyffwrdd, 1pm)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod.

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau.

Dyddiad talu grwpiau: 25 Tachwedd 2025

Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol) 
Ar gael Maw – Iau ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig

16-30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau


Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.