Skip to main content

Mrs Doubtfire

23 Mawrth 2027 – 11 Ebrill 2027
Theatr Donald Gordon
Cheerful older woman in blue sweater holding a yellow broom, with bright sunburst background.
Mrs Doubtfire
23 Mawrth 2027 – 11 Ebrill 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau* + Sad 2.30pm
Sul 2pm
*not including Iau 25 Maw

Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

Oed:

8+ (ni chaniateir plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Mrs Doubtfire

Shw’mae, poppets! Mrs Doubtfire yw sioe gerdd gomedi lwyddiannus y West End sy’n seiliedig ar y ffilm boblogaidd, sy’n dod i Gaerdydd o 23 Mawrth 2027.

Mae’r sioe wirioneddol ddoniol yma yn cynnwys yr holl eiliadau eiconig rydych chi’n dwli arnyn nhw, yn ogystal â chaneuon newydd ardderchog a dawnsio disglair! Gyda’i gilydd, mae gennych chi lwyddiant ysgubol na ddylech ei golli.   

Byddai’r actor allan o waith Daniel (sy’n cael ei chwarae gan Gabriel Vick* o gwmni gwreiddiol Llundain) yn gwneud unrhyw beth i’w blant. Ar ôl colli gwarchodaeth mewn ysgariad cymhleth, mae’n creu persona newydd, sef y nani Albanaidd Euphegenia Doubtfire, mewn ymgais byrbwyll i aros yn eu bywydau. Wrth i’w gymeriad newydd ddatblygu bywyd ei hun, mae Mrs Doubtfire yn addysgu mwy i Daniel nag oedd yn ei ddisgwyl am sut i fod yn dad.  

ARCHEBWCH NAWR, ANWYLIAID!  

*Ni all y Cynhyrchydd sicrhau y bydd unrhyw artist yn ymddangos mewn unrhyw berfformiad penodol ac mae’n cadw’r hawl i ddefnyddio artist amgen pan fo angen o ganlyniad i anhwylder, anaf neu salwch aelod o gwmni perfformio’r cynhyrchiad.

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 1 Ebrill, 7.30pm

Perfformiad gyda chapsiynau: 2 Ebrill, 7.30pm

Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 3 Ebrill, 2.30pm

Taithiau Cyffwrdd: 3 Ebrill, 2.30pm

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth.

GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5 ar seddi penodol (Maw – Iau). Trefnu ymweliad grŵp. 

16-30

Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau). 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.