Skip to main content

Cwmni Platfform

13 Ionawr 2027 – 3 Ebrill 2027
Three performers on stage under pink-red lighting, one woman in a dress and a man in a check shirt.
Cwmni Platfform
13 Ionawr 2027 – 3 Ebrill 2027

Cwmni Platfform

Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio Cwmni Platfform, cwmni perfformio ar gyfer perfformwyr datblygol rhwng 18 a 25 oed. 

Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o ensemble ymroddedig yn Platfform, Canolfan Mileniwm Cymru, cael hyfforddiant proffesiynol am ddim a gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr yn y diwydiant i ddatblygu dy sgiliau a phrofiad fel perfformiwr. 

Yn ystod y rhaglen beilot yma, bydd aelodau’r cwmni yn mireinio eu hymarfer perfformio ac yn datblygu safonau disgyblaeth, cydweithio a phroffesiynol sy’n ddisgwyliedig o fewn y diwydiant.  

Bydd y rhaglen yn rhedeg i ddechrau rhwng Ionawr ac Ebrill 2027, gyda’r bwriad i estyn y cwmni hyd at Ebrill 2028.   

Bydd y cwmni yn cael ei arwain gan Gareth Warren. Mae Gareth yn actor, cyfarwyddwyr ac ymarferydd theatr profiadol yn Ne Cymru. Mae’n Artist Cyswllt The National Youth Theatre of Great Britain ac wedi addysgu yn CBCDC, WAVDA a Bristol School of Acting. Mae ei ymarfer wedi’i wreiddio mewn byrfyfyr, dyfeisio a thechnegau ensemble gyda phwyslais ar fod yn chwareus. 

Yn dilyn ein cynhyrchiad llwyddiannus Girl-Coded ym mis Ebrill 2026, gall aelodau’r cwmni ddisgwyl hyfforddiant o ansawdd uchel, amgylchedd creadigol cefnogol, cyfleoedd i weithio gydag artistiaid proffesiynol a’r cyfle i greu a pherfformio gwaith newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymr

Ymrwymiad i’r Rhaglen 

Bydd sesiynau wythnosol yn cael eu cynnal bob nos Fercher 6.30–9pm yn Platfform, Canolfan Mileniwm Cymru. Efallai bydd sesiynau ychwanegol ar gyfer gwaith sgript, mae hyn i’w gadarnhau. 

Hefyd, mae angen i holl aelodau’r cwmni fod ar gael ar gyfer cyfnod ymarfer a pherfformio dwys:  

Ymarferion amser llawn 

  • 15–31 Mawrth 2027 
  • Yn ystod yr wythnos yn unig 
  • Angen presenoldeb llawn 

Perfformiadau 

  • Nosweithiau 1–3 Ebrill 2027 
  • Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru 

Bydd bwrsari o £450 y cyfranogwr ar gael i gefnogi ymrwymiad yn ystod y cyfnod ymarfer a pherfformio dwys.  

Dylet ti ond ymgeisio os wyt ti’n gallu ymrwymo i’r holl ddyddiadau ymarfer a pherfformio sydd wedi’u rhestru uchod. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am hyn, cysyllta â ni yma. 

Gweithdy Clyweliad 

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026 10am – 5pm 

Bydd hwn yn ddiwrnod gweithdy ymarferol yn hytrach na chlyweliad traddodiadol. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn ymarferion perfformio, gweithgareddau creadigol a gwaith grŵp, gan roi cyfle i ni ddod i dy adnabod di a sut rwyt ti’n gweithio gydag eraill. 

Dyddiadau Allweddol 

  • Ceisiadau yn agor: 2 Tachwedd 2026 
  • Ceisiadau yn cau: 19 Tachwedd 2026 
  • Gweithdy clyweliad: 28 Tachwedd 2026 
  • Sesiynau wythnosol yn dechrau: 13 Ionawr 2027 
  • Cyfnod ymarfer dwys: 15–31 Mawrth 2027 
  • Perfformiadau: 1–3 Ebrill 2027 

Sut i ymgeisio

Rydyn ni’n chwilio am berfformwyr rhwng 18 a 25 oed sy’n frwdfrydig am ddatblygu eu crefft ac sydd â diddordeb mewn cydweithio fel rhan o ensemble.

Does dim angen hyfforddiant ysgol ddrama ffurfiol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan berfformwyr sydd ag amrywiaeth o brofiadau a chefndiroedd sy’n barod i ymrwymo i’r rhaglen ac ymgysylltu â’r broses greadigol.

Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i ddod i glyweliad ar ffurf gweithdy.

Hygyrchedd

Rydyn ni’n ymrwymo i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol, rhai sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad bywyd a all fod angen addasiadau, cymorth neu sensitifrwydd. 

Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk

Ein Cyrsiau Platfform

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.