Pride and Prejudice* (*sort of)
Amser dechrau a hyd:
Maw-Sad, 7.30pm
Iau + Sad, 2.30pm
Tua 2 awr a 5 munud (yn cynnwys un egwyl)
Oed:
12+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.
Rhybuddion:
Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, pyrotechneg, cleciau uchel ac iaith gref.
Y ffenomenon comedi pum seren o'r west end
Pride and Prejudice* (*sort of) gan Isobel McArthur ar ôl Jane Austen
Mae Pride and Prejudice* (*sort of), y llwyddiant yn y West End lle enillodd Wobr Laurence Olivier am y Comedi Gorau a Gwobr Evening Standard, yn fersiwn unigryw a mentrus o stori gariad fwyaf eiconig Jane Austen.
Bydd ymladd dros ddynion, arian a meicroffonau yn yr addasiad digywilydd ond annwyl yma, lle mae arian mawr yn y fantol pan mae rhamant yn y cwestiwn. Mae’r cynhyrchiad arobryn yma yn cynnwys llwyth o glasuron pop gan gynnwys Young Hearts Run Free, Will You Love Me Tomorrow ac You’re So Vain.
YR 1800AU YW HI.
MAE’N AMSER PARTI.
GADEWCH I’R TREFNU PRIODASAU DIDRUGAREDD DDECHRAU.
CYNNIG AELODAU
Aelodau Partner a Phartner Awen: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau (gan gynnwys y noson agoriadol)
Aelodau Ffrind a Ffrind+: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau (ac eithrio’r noson agoriadol).
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw–Iau (ar y 2 bris uchaf). Trefnwch ymweliad grŵp.
Dyddiad talu: 11 Ionawr 2027
16–30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw–Iau
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd