Skip to main content

Rob Auton 'JUPITER'

27 Chwefror 2027
Cabaret
Rob Auton 'JUPITER'
27 Chwefror 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, 7pm doors

Oed:

18+

Rhybuddion:

Bad Language

Rob Auton 'JUPITER'

RobMae’r sioe yma yn stori am amser pan roedd gan Rob Auton swydd fel asiant eiddo ar y blaned Iau.

Mae’n ffuglen. Yn dilyn llwyddiant ei daith ledled Prydain yn 2025-26 a werthodd allan, mae’r awdur, perfformiwr, podlediwr ac actor arobryn Rob Auton yn dychwelyd i lwyfannau’r DU yn 2027 gyda Jupiter. 

Ar y sgrin mae Rob wedi ymddangos gyferbyn â Danny Dyer yn Marching Powder, yng nghomedi llwyddiannus Channel 4 The Change ac yn Starstruck y BBC. Mae ei glodrestr bellach yn cynnwys Miracle Workers (TBS), The End of the F**ing World (Netflix/Channel 4), The Russell Howard Hour (Sky), Cold Feet (ITV) a Random Acts (Channel 4), yn ogystal ag ymddangosiad ar Stand Up Central gyda Rob Delaney (Comedy Central) a aeth yn feirol.  

Ochr yn ochr â’i waith sgrin, mae Rob wedi ennill dwy wobr Aur yng Ngwobrau Podlediadau Prydain am The Rob Auton Daily Podcast.  

Iechyd Da!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cabaret House Rules

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret