The Abominable Snowman
Amser dechrau a hyd:
7pm + 3pm (Matinee dydd Sadwrn)
Oed:
5+
Mae The Abominable Snowman yn cyfuno antur a theimlad calonnog The Snowman gan Raymond Briggs â hiwmor ac anarchiaeth y cwmni theatr gerddorol arobryn, Gagglebabble.
Wedi’i leoli yn ystod y cyfnod o rew eithafol yn 1962/3 – ac yn cychwyn yn ‘The Quebec’, tafarn enwog gynt yn Bae Tiger – mae’r ifanc Sid a Gef (ei gydymaith, mwngws sy’n siarad) yn teithio cyn belled i’r gogledd â phosibl. Eu nod yw toddi calon yr ‘Abominable Snowman’ (Y Dyn Eira Ofnadwy) a dod â’r Gaeaf Diddiwedd i ben.
Ar eu taith, bydd Sid a Gef yn cwrdd ag amrywiaeth o greaduriaid dirgel (cryptids), ac yn cael eu rhwystro gan ‘Byddin y Naddion Eira Dyn Eira Ofnadwy’ – criw doniol ond anghymwys...
Gyda phypedau, cerddoriaeth wreiddiol a’ch ‘Llwybr Creaduriaid Dirgel’ eich hun i’w gwblhau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn y sioe, mae The Abominable Snowman yn sicr o fod yn wrthwenwyn oer i haf poeth 2026.
Mae Hijinx Odyssey yn grŵp theatr gymunedol gynhwysol sy’n cynnwys cymysgedd o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ac actorion niwronodweddiadol sy’n perfformio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal.
Hygyrchedd
Bydd sain ddisgrifiad gan Alastair Sill ar gael ym mhob perfformiad.
Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk o leiaf 24 awr ymlaen llaw i drefnu.
Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.
DAN 16 OED, POBL ANABL , DIGYFLOGEDIG
£8
GRWPIAU 10+
£8
GRWPIAU YSGOL
Tocynnau £8 - un tocyn athro am ddim i bob 10 tocyn a brynir (ffoniwch 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol)
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.