The Curious Incident of the Dog in the Night-Time
Amser dechrau a hyd:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Tua 2 awr a 40 munud (yn cynnwys un egwyl)
Oed:
11+ (dim plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion:
Gall gynnwys goleuadau sy’n fflachio/strôb, iaith anweddus ysgafn a synau uchel.
Dirgelwch mwyaf poblogaidd y ganrif.
Mae’r nofel boblogaidd ryngwladol a swynodd 10 miliwn o ddarllenwyr yn dod mewn fersiwn newydd sbon sy’n fwy cyffrous nag erioed.
Mae gan Chris Boone feddwl arbennig ar gyfer rhifau, ond mae'm anghyfforddus gyda natur annisgwyl pobl a bywyd bob dydd. Pan mae ci cymydog yn cael ei ddarganfod yn farw, mae’n dod o dan amheuaeth. Yn benderfynol o brofi ei bod yn ddieuog, mae Chris yn troi’n dditectif ac yn unigolyn drwgddybiedig, sy’n cael ei thynnu i mewn i ddirgelwch sy’n tyfu’n dywyllach ac yn fwy cymhleth gyda phob cliw mae’n ei ddatgelu.
Mae beth sy’n dechrau fel chwilio am droseddwr yn fuan yn datgelu cyfrinachau agosach at adref, sy’n ei gorfodi i wynebu gwirionedd a fydd yn profi ei dewrder, ei theulu a’i dealltwriaeth o ymddiriedaeth, annibyniaeth a’r byd ehangach.
Gyda Joe McFadden (The Shawshank Redemption – Taith y DU; 2:22 A Ghost Story – Gielgud Theatre; enillydd Strictly Come Dancing 2017) a'r ffefryn Eastenders Charlie Brooks (Chitty Chitty Bang Bang – Taith y DU; Ocean at the End of the Lane – National Theatre) fel rhieni Chris – Ed a Judy.
Dyfeisgar, gafaelgar ac emosiynol, mae The Curious Incident of the Dog in the Night-Time yn cyfuno cynllwyn dirgelwch gyda stori bwerus dod i oed mewn digwyddiad theatraidd bythgofiadwy.
5 llun
Perfformiadau Hygyrch
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 29 Ebrill, 7.30pm
Perfformiad gyda chapsiynau: 30 Ebrill, 7.30pm
Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 1 Mai, 2.30pm
Taithiau Cyffwrdd: 1 Mai, 1pm
MEMBERS' OFFER
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig, Aelodaeth.
GROUP OFFERS
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5 ar seddi penodol (Maw – Iau). Dyddiad talu: 19 Hydref 2026. Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol). Ar gael Maw - Iau ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig.
16-30
Gostyngiad o £8 seddi penodol, Maw - Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.