Yn storïwr yng ngwir ystyr y gair, mae Lisa O’Neill wedi bod yn enwebai Gwobr Werin y BBC bum gwaith. Cafodd ei halbwm glodwiw, All of This Is Chance, ei rhyddhau ar Rough Trade Records fis Chwefror y llynedd, gan gyrraedd safle uchel ar restrau Albwm y Flwyddyn sawl beirniad, gan gynnwys Gideon Coe o BBC 6 Music a chylchgronau Mojo a Songlines.
Roedd ei haddasiad o All the Tired Horses gan Bob Dylan yn drac sain ar olygfa olaf y ddrama deledu epig Peaky Blinders, ac bu’r actor Cillian Murphy yn sgwrsio gyda Margot Robbie ar y radio am hoffter y ddau o gerddoriaeth O’Neill.
Mae All of This Is Chance yn cynnwys campweithiau cerddorfaol fel y gân fentrus a sinematig Old Note, a’r trac teitl a gafodd ei ysbrydoli gan gerdd epig y bardd o Monaghan, Patrick Kavanagh, The Great Hunger. Mae myfyrdodau ysgogol ar natur, adar, aeron, gwenyn a gwaed yn seinio dros glepian banjo drwy gydol yr albwm, gan ysgeintio a dinistrio pawb sydd yn y ffordd.
Gan fynd â llais cwbl unigryw O’Neill i uchelfannau, mae All Of This Is Chance yn bortread nid yn unig o artist sydd mewn cariad â natur, ond o artist sy’n methu deall y bwlch cynyddol rhwng natur a chymdeithas fodern. Mae O’Neill yn canu ar draws y rhaniad hwn, gan gloddio’n ddwfn i’r tir ar yr un pryd; mae ei llygaid yn syn ar fydysawd o adar lliwgar, a thu hwnt iddyn nhw mae’n syllu ar sêr y gofod pell nad ydyn ni’n ddim ond darnau bach ohono.
“Mae O’Neill yn arwres ddiwylliannol yn ei rhinwedd ei hun… artist modern sy’n deall yr hynafol.” - New York Times
“Gwaith digyfaddawd, syfrdanol, sy’n ysgwyd yr enaid.” - The Guardian
Mwy gan Lisa O'Neill
Amser dechrau: 6.30pm
Hyd y perfformiad:: 1 awr a 10 minud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.