Mae KEATON HENSON yn gerddor, yn awdur ac yn artist gweledol o Loegr sy’n creu gwaith hynod onest sy’n gallu bod yn anghyfforddus i wrando arno weithiau.
Fel artist mae’n nodedig o swil, yn gyndyn i roi cyfweliadau, yn perfformio nifer cyfyngedig iawn o sioeau ac yn cadw’n glir o’r cyfryngau cymdeithasol, felly roedden ni wrth ein boddau ei fod wedi gallu dod i Gaerdydd i berfformio sioe gyfareddol yn y Theatr Newydd ar gyfer Gŵyl y Llais.