Dan arweiniad COLIN CURRIE, ffurfiwyd yr ensemble a ddewiswyd â llaw yn 2006 ar gyfer perfformiad o Drumming ym Mhromiau’r BBC i ddathlu 70fed penblwydd Steve Reich.
Ers hynny, mae’r Colin Currie Group wedi perfformio mewn cyngherddau mewn sawl neuadd a gŵyl fawr, gan gynnwys perfformio’n rheolaidd yn y Southbank Centre yn Llundain lle mae Currie yn Artist Cyswllt.
Yn 2018, rhyddhawyd recordiad y grŵp o Drumming ar Colin Currie Records ar ôl ymgyrch codi arian llwyddiannus ar Kickstarter, â chefnogaeth lawn Steve Reich.
Fel medd Steve Reich ei hun yn yr Irish Times: “Another performance that knocked my socks off was Colin Currie and his group doing Drumming at the Southbank this year. It was miked up high, it was expressionist, it was a brand new take. And I thought, Oh, we never could have done it that way.”
“The world’s finest and most daring percussionist”
Spectator