caroline
Mae CAROLINE yn fand wyth person o Lundain wedi ei ffurfio yn ystod sesiynau byrfyfyr wythnosol rhwng cyd aelodau, Jasper Llewellyn, Mike O’Malley, a Casper Hughes.
Mae cerddoriaeth y band yn asio dylanwadau a phrofiadau o chwarae ystod eang o genres gan gynnwys cerddoriaeth gitâr ‘Emo’ Midwestern, gwerin Appalachian, clasurol minimalaidd ac amrywiaeth o gerddoriaeth ddawns.
Mae’r senglau eang ‘Dark blue’ a ‘Skydiving onto the library roof’, yn ogystal â pherfformiadau yn End of The Road, Green Man ac yn cefnogi grŵp roc indie, The Microphones, wedi sicrhau carfan gref o ddilynwyr cwlt i’r band.
MWY GAN CAROLINE
Tara Clerkin Trio
Pat Benjamin, Sunny Joe Paradisos a Tara Clerkin yw TARA CLERKIN TRIO - triawd o gerddorion sydd wedi bod yn rhan o nifer o fandiau cwlt o Fryste dros y blynyddoedd, cyn setlo i fod yn grŵp o dri hyderus.
Maen nhw’n cael eu hysbrydoli ac yn benthyg gan jazz, trip hop, electronica, psychedelia a minimaliaeth, gan ddod â’r elfennau di-lol o’r dulliau yma at ei gilydd i greu cywaith gwyrdd chwyrlïog ar gyfer Arthur Russell.