Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
black midi + Cate Le Bon

black midi + Cate Le Bon

30 Hydref 2022

Noson gyda Cate le Bon + Black Midi gydag Alice Low yn cefnogi….oes angen dweud mwy!

CATE LE BON

Gyda’i pherfformiad cyntaf o’i halbwm newydd wych, Pompeii, yng Nghaerdydd, mae Cate le Bon, wedi’i disgrifio gan Jeff Tweedy o Wilco fel ‘un o’r goreuon wrth greu cerddoriaeth’.

Mae agwedd anghyffredin Cate at greu cerddoriaeth yn gwneud iddi swnio’n mor unigryw - o grefft canu swrrealaidd i Avant-pop beiddgar. Mae ei geiriau caleidosgopig llawn dirgelwch yn cyfuno gyda chanu am golled, atgofion a marwoldeb.

MWY GAN CATE LE BON

BLACK MIDI

Mae Black Midi yn dod â'u brand unigryw o anhrefn sy'n gymysg o genres i Theatr Donald Gordon.

Gyda rhyddhau eu trydydd albwm ‘Hellfire’ yn 2022, mae’r triawd ôl-roc arbrofol, Black Midi, yn mynd amdani.

Mae Hellfire yn dilyn ail record stiwdio’r band y llynedd,  Cavalcade. Dywedodd Geordie Greep o Black Midi, “os oedd ‘Cavalcade’ yn ddrama, mae ‘Hellfire’ fel ffilm epig llawn cyffro.”

MWY GAN BLACK MIDI

ALICE LOW

Mae Alice Low o Gaerdydd yn ysgrifennu caneuon sy’n llawn alawon pop a dawns bachog. Mae ei sengl gyntaf 'Ladydaddy,' yn epig pedair munud ar ddeg sy'n swnio fel pe bai David Bowie, Scott Walker, John Grant, ac Anohni wedi dod at ei gilydd i wneud y cân.

Mae ei sengl ddilynol Cry-Baby yn parhau i wynebu ei hunaniaeth hi hun fel menyw draws.