Gan ddychwelyd i berfformio yng Nghymru ar ôl mwy na naw mlynedd, bydd yr arloeswyr roc gwerin Americanaidd MIDLAKE yn chwarae sioe agos-atoch i’w ymgolli ynddi yn Neuadd Hoddinott y BBC.
Wrth ddod yn ôl at ei gilydd ar ôl wyth mlynedd, roedd aelodau’r band yn bendant bod angen eu ffocws llwyr ar Midlake.
Bu’r clo yn 2020 yn ddefnyddiol, gan gynnig dihangfa llwyr o realiti llym a chyfle i ganolbwyntio egni’r band - cwbl hanfodol ar gyfer grŵp yr oedd ei haelodau (Pulido, Chandler, Smith, Eric Nichelson a Joey McClellan) i gyd wedi dilyn trywydd ar wahan.
Wedi'i ryddhau ym mis Mawrth 2022, mae 'For the Sake of Bethel Woods' yn fynegiant pwerus, cynnes o benderfyniad ac adnewyddiad i Midlake, gan agor dyfodol newydd i'r band wrth anrhydeddu eu hanes.
"It’s an enthralling slow-seep jewel of an album that sees Midlake stretching out from their folk-rock and album orientated rock heartland while displaying a sharper clarity than on any album since 2006’s Van Occupanther. A comeback album to cherish."
Guitar.com
MWY GAN MIDLAKE
CERYS HAFANA
Yn cefnogi Midlake mae’r cyfansoddwr a’r aml-offerynnwr o Gymru CERYS HAFANA, sy’n anffurfio, yn trosi ac yn gweddnewid cerddoriaeth draddodiadol, gan archwilio posibiliadau creadigol a nodweddion unigryw y delyn deires wrth arbrofi gyda synau, archif a phrosesu electronig.