Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

20 Mlynedd o Ganolfan Mileniwm Cymru

Ugain mlynedd yn ôl i heddiw, fe agoron ni ein drysau am y tro cyntaf ar gyfer dathliad wedi’i drefnu gan y canwr opera anhygoel Syr Bryn Terfel. Ers hynny rydyn ni wedi croesawu miliynau ohonoch chi i fwynhau popeth o sioeau cerdd llwyddiannus i’n cynyrchiadau, gwyliau a chyrsiau creadigol arloesol ein hunain. Diolch am wneud Canolfan Mileniwm Cymru mor hudol a chefnogi ein taith.

Meddwl eich bod chi’n gwybod popeth amdanom ni? Darganfyddwch 20 o ffeithiau amdanom ni efallai nad oeddech chi’n gwybod...

1. Wedi'i chreu yng Nghymru

Mae ein hadeilad yn cynnwys 4,500 o dunelli o ddur lleol, wedi’i orchuddio gan 2,000 o dunelli o lechi Cymreig wedi’i hailgylchu, ac mae pum math o bren caled o goetiroedd cynaliadwy tu mewn i’r adeilad. Gwyliwch ein fideo gyda’n pensaer, Jonathan Adams, i ddysgu mwy.

2. Lleoliad hanesyddol

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn eistedd ar 7.5 erw o hen ddociau, mewn ardal a oedd yn cael ei alw’n Tiger Bay yn lleol. Y dociau yma oedd y prysuraf yn y byd ar un adeg, yn allforio glo o bob cwr o’r byd. Ymgartrefodd dros 50 o genedlaethau yn yr ardal, gan wneud y gymuned yn un o boblogaethau amrywiol hynaf y Deyrnas Unedig.

3. Ffwrnais Awen

Cafodd ein harysgrif dwyieithog eiconig ei ysgrifennu gan y bardd Gwyneth Lewis, gyda dim ond dyddiau i fynd nes bod angen anfon y cynlluniau pensaernïol at yr adeiladwyr! Gofynnon ni i Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, i gyfweld â Gwyneth ac ysgrifennu ei cherdd ei hun mewn ymateb i’r arysgrif i nodi ein 20 mlwyddiant.

4. Rydyn ni’n creu ein cynyrchiadau ein hunain

Mae ein gwaith wedi cael ei weld ledled y byd, gan gynnwys yn Efrog Newydd, Cape Town a’r National Theatre yn Llundain. A pheidiwch ag anghofio’r adeg y gwnaethon ni helpu i wneud i eirinen wlanog enfawr ymddangos yng nghanol dinas Caerdydd.

Ein cynyrchiadau

5. Cartref diwylliannol 

Mae ein hwyth sefydliad preswyl anhygoel – gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – yn helpu i greu campws prysur o dan ein to

Ein preswylwyr 

6. Mae gennym ni orsaf radio

Mae Radio Platfform yn rhoi cyfle i bobl ifanc gynhyrchu a chyflwyno eu sioeau radio byw a phodlediadau ei hunain, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a The Factory ym Mhorth.

Gwrandewch yn fyw

7. Nid dyna'r cyfan mae pobl ifanc yn ei wneud yma 

Platfform yw ein rhaglen o gyrsiau, hyfforddiant, profiadau a gweithdai am ddim i bobl 11–25 oed, sy’n amrywio o ysgrifennu creadigol, sgrin a ffilm a graffiti i sgrin-brintio, cynhyrchu nofelau graffig a mwy.

Tanio creadigrwydd

8. Nid dim ond un llwyfan mawr sydd gyda ni  

Oes, mae gyda ni’r ail lwyfan fwyaf yn Ewrop ac rydyn ni’n croesawu rhai o berfformwyr mwyaf y byd, ond nid Theatr Donald Gordon yw’r unig leoliad sydd gyda ni. O lwyfan Cabaret lliwgar i ofod pwrpasol ar gyfer adrodd straeon ymdrochol, mae digonedd o brofiadau i’w cael yma.

Darganfyddwch ein gofodau 

9. Mae gennym ni ein gŵyl ein hunain

Mae ein gŵyl gelfyddydau ryngwladol flynyddol Llais wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom ni, sef y llais. Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau â thocynnau ac am ddim, mae perfformwyr blaenorol yn cynnwys Rufus Wainwright, Patti Smith ac Elvis Costello.

Gŵyl heb ei thebyg

10. Mynediad i bawb

I sicrhau y gall pawb gael mynediad at y celfyddydau, rydyn ni’n cydweithio â chymunedau, pobl ifanc a chynulleidfaoedd i greu rhaglennu sy’n croesawu pawb. Mae’r rhain yn cynnwys ein band dur Pantasia, cefnogi Carnifal Butetown a Thocynnau Croeso, ein cynllun tocynnau talwch beth y gallwch.

Ein rhaglen gymunedol

11. Rydyn ni'n elusen

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gartref i bawb yn ein cymuned. Mae cyfraniadau yn mynd tuag at gost ein cyrsiau Platfform, mannau ymarfer ar gyfer cynyrchiadau newydd a chefnogi pobl ifanc i gynhyrchu a chyflwyno eu gwaith eu hunain.

Taniwch ein dyfodol

12. Cynnyrch Cymreig

Mae ein bar-caffi Ffwrnais yn gweini cynhyrchion Cymreig lleol, gan gynnwys coffi gan Quantum a chacennau blasus gan Pettigrew.

Porth i'r celfyddydau

13. Mae aelodau'n cael mwy

Yn dechrau o £42 y flwyddyn, mae buddion ein haelodau yn cynnwys blaenoriaeth wrth archebu, gostyngiadau yn Ffwrnais a’n bariau theatr yn ogystal â chynigion arbennig ar docynnau.

Ymaelodwch

14. Technoleg arloesol

Rydyn ni’n bartner yn Celfyddydau Ymdrochol, rhaglen ledled y DU sy’n cefnogi artistiaid i ddefnyddio realiti rhithwir, estynedig ac ymestynnol i greu gwaith celf sy’n ymgysylltu â’r synhwyrau i gyd.

Ymgeisiwch am grant

15. A sôn am dechnoleg ymdrochol...

Yn ddiweddar gwnaethom ni ddatgelu ein cynlluniau ar gyfer canolfan berfformio ddigidol yn gyntaf newydd a fydd yn cynnwys gofod penodol ar gyfer archwilio pŵer profiadau ymdrochol, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer cynhyrchu, ymarfer a hyfforddi.

Dyfodol creadigrwydd

16. Ein map ffordd sero net

Mae ein camau i leihau ein hallyriadau carbon yn cynnwys gosod paneli solar ar ein to, dilyn safonau Llyfr Gwyrdd y Theatr ar gyfer ein cynyrchiadau a newid i e-docynnau. Rydyn ni hefyd wedi cael sgôr A ar gyfer ein Tystysgrif Ynni i’w Harddangos yn ddiweddar.

Dewisiadau gwyrdd

17. Meithrin y genhedlaeth nesaf o dechnegwyr

Mae ein prentisiaid technegol yn cael blwyddyn o gyflogaeth â thâl lle maen nhw’n cael profiad cefn llwyfan naill ai gyda ni neu un o’n sefydliadau partner ledled Cymru.

Cefnogi doniau Cymreig

18. Lleoliad ffilmio

Mae nifer o gynyrchiadau teledu wedi defnyddio rhannau o’n hadeilad ar gyfer ffilmio, gan gynnwys Gavin & Stacey a Doctor Who. Ydych chi erioed wedi ein hadnabod ni ar y teledu?

19. Ein cynllun gwirfoddoli

Rydyn ni’n annog pobl o bob cefndir ac oed i ymgysylltu’n fwy â’r celfyddydau a gwirfoddoli gyda ni. Mae’r rhan fwyaf yn gweithio fel tywyswyr lleoliad, yn helpu cynulleidfaoedd i’w seddi ac ateb ymholiadau.

Ymunwch

20. Allen ni ddim gwneud hyn hebddoch chi

Er ein bod ni’n cael rhywfaint o arian cyhoeddus, mae cymaint o beth sy’n digwydd yn ein hadeilad ond yn gallu digwydd diolch i haelioni ein cymuned – drwy brynu tocynnau, mwynhau diod a chyfrannu i gefnogi ein gwaith. Diolch o galon.