Mae Canolfan Mileniwm Cymru a Crossover Labs yn falch o gyhoeddi Gwobr Annwn – gwobr fyd-eang sy'n dathlu rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol.
Gyda chefnogaeth Peter a Janet Swinburn, bydd y wobr flynyddol yn dyfarnu gwobr ariannol o £20,000 i'r artist neu'r stiwdio fuddugol ynghyd â chyfnod preswyl pwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.
Bydd pedwar gwaith ar y rhestr fer yn cael eu harddangos i'r cyhoedd mewn arddangosfa fawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru lle bydd rheithgor o arbenigwyr a wynebau adnabyddus yn dewis yr enillydd. Bydd gweithiau’n cael eu henwebu ar gyfer y Wobr gan gymuned o guraduron a sylwebyddion rhyngwladol.
Meddai Graeme Farrow, prif swyddog creadigol a chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, a wnaeth y cyhoeddiad yn Bradford:
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld adrodd straeon ymdrochol yn dod i oed fel symudiad diwylliannol byd-eang, gyda'r grym i danio'r dychymyg ac ehangu gorwelion. Er bod y ffurf yma ar gelfyddyd wedi bod yn magu stêm ers tro, mae'n hen bryd bellach iddi gael llwyfan pwrpasol i arddangos rhagoriaeth ac i ddod â'r gwaith mwyaf arloesol gan grewyr uchelgeisiol i'r gynulleidfa ehangaf bosib, yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol."
Ychwanegodd Peter a Janet Swinburn, cefnogwyr y wobr:
"Mae gan Adrodd Straeon Ymdrochol ran allweddol i'w chwarae yn nyfodol sut rydyn ni’n creu ac yn profi celf. Bydd Gwobr Annwn yn esiampl o ragoriaeth greadigol yn ymestyn o Ganolfan Mileniwm Cymru ar draws y byd. Mae hwn yn gam amserol a hanfodol i'r diwydiant, ac rydyn ni’n falch o gynnig ein cefnogaeth."
Bydd Gwobr Annwn am Ragoriaeth mewn Gwaith Adrodd Straeon Ymdrochol yn dod yn ddigwyddiad mawr yn y byd celfyddydau byd-eang, gan gadarnhau lle celf ymdrochol yn y sgwrs ddiwylliannol, ysgogi trafodaeth feirniadol am brofiadau ymdrochol, a chreu cyfle unigryw i gynulleidfaoedd brofi'r gwaith ymdrochol gorau o bob cwr o'r byd, yma yng ngwledydd Prydain.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Gwobr Annwn?
Menter fyd-eang yn dathlu rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol grymus.
Pwy sefydlodd y Wobr?
Menter gan Ganolfan Mileniwm Cymru yw'r wobr ac fe'i cynhyrchir gan Crossover Labs. Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd newydd o adrodd straeon gan ddefnyddio technoleg ymdrochol a chrewyr enwog sy'n gweithio ar groesffordd rhwng celf a thechnoleg. Yn 2022, lansiodd y ganolfan Bocs, gofod pwrpasol ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti estynedig (XR), ac yn 2024 datgelodd gynlluniau ar gyfer canolfan berfformio digidol-yn-gyntaf arloesol fel rhan o ymrwymiad parhaus i ddyfodol creadigrwydd yng Nghymru. Bydd Gwobr Annwn yn bennod newydd i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan bwysleisio ei buddsoddiad gydag artistiaid sy'n parhau i greu gwaith ar groesffordd rhwng technoleg, adrodd straeon a'r celfyddydau.
Sut mae'r Wobr yn cael ei hariannu?
Cefnogir y Wobr gan Peter a Janet Swinburn.
Beth yw ystyr / o ble mae’r enw'n dod?
Annwn yw’r "arallfyd" mewn chwedloniaeth Gymraeg, teyrnas gyfochrog freuddwydiol a hyfryd.
Beth yw'r broses ddethol ar gyfer Gwobr Annwn?
Bydd 35 o guraduron a sylwebyddion rhyngwladol yn cael eu gwahodd i enwebu gwaith ymdrochol rhagorol i'w ystyried er mwyn creu rhestr hir o hyd at 15 o brofiadau. Bydd pwyllgor dethol yn penderfynu ar restr fer o bedwar ymgeisydd terfynol a fydd yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd yng ngwanwyn 2026.
Beth yw'r meini prawf i fod yn gymwys?
Mae'r wobr ar agor i artistiaid unigol a stiwdios.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y wobr, rhaid i enwebiadau:
1) Dangos rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon grymus
2) Gwneud i gynulleidfaoedd deimlo fel rhan weithredol ac annatod o'r darn
3) Defnyddio technolegau sy'n gwella, yn cynyddu neu'n effeithio ar ein hymdeimlad o realiti
4) Bod wedi’u harddangos mewn rhaglen canolfan, taith neu ŵyl yn ystod y 18 mis diwethaf (Ionawr 2024 ymlaen)
5) Bod yn addas ar gyfer arddangosfa pedair wythnos o hyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng ngwanwyn 2026
Beth yw'r broses feirniadu ar gyfer yr enillydd?
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis yn yr arddangosfa gan banel annibynnol o arbenigwyr o’r diwydiant a wynebau adnabyddus o fyd y celfyddydau ac adloniant, a fydd yn dewis y gwaith gorau o'r rhestr fer o bedwar. Dyfernir y wobr i'r esiampl orau o waith adrodd straeon grymus, celfyddyd ymdrochol a defnydd o'r ffurf.
Sut mae rhoi cynnig arni?
Dim ond drwy wahoddiad mae modd enwebu.
Pryd bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi?
Gwanwyn 2026.
Beth fydd yr enillydd yn ei gael?
£20,000 ynghyd â chyfnod preswyl pwrpasol.
Oes arddangosfa i'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol?
Oes, bydd y pedwar gwaith fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu harddangos mewn arddangosfa gyhoeddus pedair wythnos o hyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd artistiaid a stiwdios fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael cyllideb gynhyrchu a chymorth cynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Crossover Labs i lwyfannu eu gwaith am y cyfnod.