Mewn partneriaeth â Wales Tamil Sangam, mae dathliadau Diwali'n dychwelyd i lenwi ein hadeilad gyda goleuni, sain a phositifrwydd.
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 13 Tachwedd o 4pm – 8pm yn ein cyntedd Glanfa ar gyfer digwyddiad am ddim llawn hwyl i'r teulu cyfan.
Gan addo awyrgylch wefreiddiol a chroeso cynnes fel yr arfer, bydd gŵyl y goleuni yn llenwi ein cyntedd gyda leinyp llawn cerddoriaeth a dawns, yn ogystal â chelf llawr rangoli a digonedd o weithdai crefft teuluol i chi ymuno â nhw.
Amserlen llawn
| 4pm | Croeso swyddogol gan Ganolfan Mileniwm Cymru a gweddi Wales Tamil Sangam – Kadavul Vazhthu Kalpana – Araith o groeso |
| 4.45pm | Aditya (canu) |
| 4.50pm | Kayal (canu) |
| 5pm | Simon Sparkles (hud a lledrith) |
| 5.50pm | Anaya (gitâr) |
| 6pm | Megan (dawns grŵp Bharatanatyam plant) |
| 6.10pm | Tushar (canu) - Grŵp Auvrav Disha |
| 6.15pm | Shriya (piano) |
| 6.20pm | Kavinya a Neha (dawns Shape of You) |
| 6.25pm | Megan (dawns) |
| 6.40pm | Tara (canu) |
| 6.45pm | Usha (dawns plant) |
| 6.55pm | Tripti - merch Samyukta (dawns) – Grŵp Auvrav Disha |
| 7.05pm | Tushar Bhosle - cân Bollywood |
| 7.20pm | Areithiau olaf a diolch |
| 7.30pm | Gorffen |
Diogelwch Covid
Rydyn ni wedi gweithredu sawl mesur diogelwch i sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â'r canllawiau llywodraethol a chelfyddydau perfformio diweddaraf. Darganfyddwch fwy yma.