Yn galw Pobl Greadigol ac Artistiaid - darganfyddwch bopeth am Gelfyddydau Ymdrochol trwy fis Medi a mis Hydref.
Mae Celfyddydau Ymdrochol, y rhaglen dair blynedd ledled y DU sy'n cefnogi artistiaid i greu a rhannu celfyddydau ymdrochol - yn lansio gyda Dyddiau Ysbrydoliaeth am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy a Gweminarau Cyllid am ddim i artistiaid a phobl greadigol.
Dros y tair blynedd nesaf bydd Celfyddydau Ymdrochol yn dyfarnu £3.6 miliwn mewn cyllid grant i artistiaid sy'n byw yn y DU; bydd y cyntaf o dri rownd o gyllid yn agor ym mis Hydref 2024.
Mae'r gyfres yma o Weminarau Gwybodaeth a Dyddiau Ysbrydoliaeth am ddim, a fydd yn cael ei chyflwyno ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled y DU, yn anelu at helpu artistiaid a phobl greadigol datblygol i benderfynu pa un o'r cronfeydd sydd ar gael y gallent wneud cais amdani, i gwrdd â'r tîm ac i ofyn unrhyw gwestiynau.
Beth yw Celfyddydau Ymdrochol?
Mae’r term 'Celf Ymdrochol' yn golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl ar draws sectorau amrywiol. Ar gyfer y rhaglen yma, rydyn ni’n golygu celf sy'n defnyddio technoleg i ymgysylltu'n weithredol â'r gynulleidfa.
Mae gan y rhaglen newydd yma ddiddordeb arbennig yn y modd y gellir defnyddio realiti rhithwir, realiti estynedig a realiti ymestynnol i greu gwaith celf sy'n pontio lleoedd corfforol a digidol, yn ymgysylltu â mwy nag un o’r synhwyrau ac yn cysylltu pobl â'i gilydd a'u hamgylchedd.
Dywedodd Verity McIntosh, Cyfarwyddwr Celfyddydau Ymdrochol, Athro Cysylltiol yn UWE Bryste:
“Mae Celfyddydau Ymdrochol yn rhaglen newydd a chyffrous a fydd yn darparu ymchwil, hyfforddiant, mentora a chronfeydd hanfodol i artistiaid o bob rhan o'r DU. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â rhai o'r ymgeiswyr posibl yn ein digwyddiadau ym mis Medi a mis Hydref a rhannu mwy am ein cynlluniau i gefnogi cymuned amrywiol o artistiaid dros y tair blynedd nesaf.”
Mae Celfyddydau Ymdrochol yn cael ei arwain gan Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste), gyda'r prif hwb yn Pervasive Media Studio ym Mryste, a Watershed fel Cynhyrchydd Gweithredol.
Gan weithio mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Bryste a sefydliadau diwylliannol yng Nghaerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru), Belfast a Derry (Nerve Centre) a Glasgow (Cryptic), bydd Celfyddydau Ymdrochol yn cynhyrchu rhaglen gyfoethog o gyfleoedd cynhwysol a hygyrch, gan chwalu rhwystrau er mwyn i artistiaid o bob cefndir allu ymgysylltu â'r adnoddau ymdrochol.
Bydd y rhaglen hyfforddi a chyflwyno yn cael ei harwain gan Crossover Labs, gyda mewnbwn strategol gan Unlimited, Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate ac XR Diversity Initiative a Bwrdd Ymgynghorol rhyngwladol.
Pa gyllid sydd ar gael?
Bydd Celfyddydau Ymdrochol yn dyfarnu £3.6 miliwn mewn cyllid grant i artistiaid sy’n byw yn y DU rhwng 2024 a 2027, gyda'r cyntaf o dri rownd o gyllid yn agor ym mis Hydref 2024.
Gallwch chi gofrestru i gael diweddariadau am y galwadau cyllid ac ymuno â'r rhestr bostio yma, neu gallwch chi wneud hynny yn un o'r Dyddiau Ysbrydoliaeth neu Weminarau Cyllid.
Rydyn ni’n cynnal cyfres o Weminarau Gwybodaeth a Dyddiau Ysbrydoliaeth, ar-lein a ledled y DU, i helpu ymgeiswyr posibl i benderfynu pa un o'r cronfeydd y gallent wneud cais amdani, i gwrdd â'r tîm ac i ofyn unrhyw gwestiynau.
Galwadau cyllid – yn agor ar gyfer ceisiadau yn fuan!
Cofrestrwch ar gyfer gweminar Celfyddydau Ymdrochol neu Ddiwrnod Ysbrydoliaeth!
Gweminarau
Dewch i gwrdd â'r tîm a dysgu am y tri math o gyllid a fydd yn agor ar gyfer ceisiadau yn fuan:
Archwilio – grant o £5,000
Arbrofi – grant o £20,000
Estyn – grant o £50,000
Mae'r sesiynau byr ar-lein yma ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am unrhyw un o'r cyfleoedd, ac maen nhw wedi'u bwriadu i'ch helpu i benderfynu pa un o'n cronfeydd y gallech chi wneud cais amdano, cwrdd â'n tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Dyddiadau
Dydd Mercher 9 Hydref 1–2pm, cofrestrwch yma (bydd y weminar yma yn cynnwys cyfieithiad BSL)
Dydd Mawrth 15 Hydref 5–6pm, cofrestrwch yma (bydd y sesiwn yma yn cael ei sain ddisgrifio)
Dydd Mercher 30 Hydref 11am–12pm, cofrestrwch yma (sesiwn galw heibio i ofyn am hygyrchedd), ni fydd yn cael ei recordio
Methu dod i sesiwn fyw? Bydd recordiadau ar gael ar ein gwefan yn fuan ar ôl pob digwyddiad.
Dyddiau Ysbrydoliaeth
Ar gyfer artistiaid sydd ag ychydig neu ddim profiad o weithio gyda thechnoleg ymdrochol, mae'r gweithdai diwrnod cyfan yma, dan arweiniad Crossover Labs, wedi'u cynllunio i helpu i ddatgelu potensial celf ymdrochol a rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer eich ymarfer creadigol. Mae'r sesiynau yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb ond maen nhw wedi'u hanelu'n benodol at y rhai sy'n ystyried gwneud cais am y gronfa Archwilio.
Glasgow: Dydd Mercher 25 Medi, 10am–5pm – Cofrestrwch yma
Belfast: Dydd Gwener 27 Medi, 10am–5pm – Cofrestrwch yma
Caerdydd: Dydd Mercher 2 Hydref, 10am–5pm – Cofrestrwch yma
Sheffield: Dydd Mercher 16 Hydref, 10am–5pm – Cofrestrwch yma
Bryste: Dydd Gwener 18 Hydref, 10am–5pm – Cofrestrwch yma
Methu ymuno wyneb yn wyneb, neu oes well gennych gysylltu ar-lein? Dydd Mawrth 22 Hydref, 10am–12pm – Cofrestrwch yma
Peidiwch â phoeni os na allwch chi ddod, bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu recordio a byddant ar gael trwy ein gwefan yn fuan ar ôl y digwyddiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am Gelfyddydau Ymdrochol, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio.
Darperir cyllid ar gyfer Celfyddydau Ymdrochol drwy gydweithrediad rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau UKRI (AHRC), Cyngor Celfyddydau Lloegr (ACE), Cyngor Celfyddydau Cymru (ACW), Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (ACNI). Mae cyllid gan Creative Scotland, ACW ac ACNI yn cael ei ddarparu gan y Loteri Genedlaethol.