Heddiw, cyhoeddodd Gwobr Annwn – y wobr fyd-eang gyntaf sy’n dathlu rhagoriaeth o ran gwaith adrodd straeon ymdrochol – y pedwar gwaith a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer blwyddyn gynta’r wobr: Colored / Noire (Novaya), Consensus Gentium (Karen Palmer), Constantinopoliad (Sister Sylvester) a NOWISWHENWEARE (the stars) (Andrew Schneider).
Bydd arddangosfa o’r gweithiau sydd ar y rhestr fer yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Mai 2026, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd brofi’r gwaith gorau o bob cwr o’r byd yma yng Nghymru. Cyhoeddir yr enillydd nos Sul 14 Mehefin 2026 mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd.
Y pedwar gwaith ar y rhestr fer, wedi'u trefnu yn ôl teitl yn nhrefn yr wyddor, yw:
Colored / Noire – Ffrainc, Novaya
Mae ymwelwyr sydd â phensetiau realiti estynedig a systemau sain dargludiad esgyrn yn cael eu cludo i Alabama’r pumdegau, wrth galon y frwydr hawliau sifil. Mae'r profiad yn caniatáu i bobl ail-fyw, fel pe baen nhw yno, weithred ddewr Claudette Colvin – merch bymtheg oed a wrthododd ildio’i sedd ar fws, a hynny naw mis cyn Rosa Parks. Roedd y pwyllgor dewis yn cymeradwyo ei ansawdd theatrig eithriadol, ei waith ysgrifennu a chyfarwyddo hanfodol a medrus, yn ogystal â'i ddefnydd arloesol o Realiti Ymestynnol i ysgogi cysylltiad emosiynol dwfn.
Consensus Gentium – Gwledydd Prydain, Karen Palmer
Ap arloesol sy'n trochi cynulleidfaoedd mewn cymdeithas yn y dyfodol agos lle mae rhyddid yn erydu o dan wyliadwriaeth a deallusrwydd artiffisial rhagfarnllyd. Fel y prif gymeriad, rydych chi'n llywio Ap Dinasyddion Byd-eang y llywodraeth er mwyn ymweld â'ch Nain sy'n sâl – gan wynebu profion sy'n mesur eich cydymffurfiaeth neu’ch anghydffurfiaeth. Gan ddefnyddio technoleg canfod wynebau a deallusrwydd artiffisial, mae'r ffilm yn darllen eich mynegiant a'ch penderfyniadau mewn amser go iawn, gan greu taith bersonol, unigryw. Roedd y pwyllgor dewis yn canmol ei naratif emosiynol sy’n cael ei gyrru gan gyfranogwyr, ac sy'n archwilio dinasyddiaeth ddigidol, grym a gwyliadwriaeth mewn ffordd rymus – lle mae pob dewis gan y cyfranogwyr yn adlewyrchu cwestiynau brys ynghylch ein dyfodol cysylltiedig.
Constantinopoliad – Gwledydd Prydain/Gwlad Groeg, Sister Sylvester
Gwaith sinema estynedig sy'n tynnu’r gynulleidfa ynghyd ar gyfer gweithred o ddarllen ar y cyd. Ymateb i archif y bardd Constantine Cavafy yw’r gwaith yma, sydd wedi'i ysbrydoli gan y tudalennau gwag a’r tudalennau sydd wedi’u rhwygo allan o “Constantinopoliad, an epic”, y dyddiadur a ddechreuwyd gan Cavafy yn ei arddegau pan ffodd gyda’i deulu o Alexandria. Drwy archifau absennol a cholledig mewn amser, a drwy ysbrydion, erotig a hanesyddol, sy'n ymweld â'r Cavafy hŷn yn ei gerddi. Roedd y pwyllgor dewis yn canmol ei ddefnydd o gyffyrddiad, delweddaeth, sain a geiriau i greu profiad byw i gynulleidfaoedd - gan eich gwahodd i gychwyn ar daith i mewn i ddychymyg y Cavafy ifanc wrth iddo archwilio ei botensial creadigol a'i rywioldeb.
NOWISWHENWEARE (the stars) – Unol Daleithiau America, Andrew Schneider
Gosodwaith theatrig rhyngweithiol lle mae'r gynulleidfa'n camu i dywyllwch llwyr ac yn dod yn ganolbwynt cytser symudol. Dan arweiniad adroddwr anweledig, mae’r cyfranogwyr yn teithio o amddifadedd synhwyraidd llwyr i fatrics wedi'i raglennu'n fanwl gywir o bron i 4,000 o oleuadau LED ymatebol a thirwedd sain 496 sianel. Mewn myfyrdod ac archwiliad, mae'r gwaith yn tynnu ymwelwyr i mewn i or-bwyslais ar y presennol, gan olrhain pob penderfyniad maen nhw wedi'i wneud sydd wedi’u harwain at yr union foment yna. Roedd y pwyllgor dewis yn canmol ei agwedd hynod wreiddiol at waith adrodd straeon gofodol, ei feistrolaeth dechnegol, ei rythm diguro sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i fyfyrio ar sut rydyn ni’n treulio’n hamser a'r ystyr rydyn ni’n ei ganfod mewn gweithredoedd bob dydd.
Mae'r rhestr fer yn cwmpasu amrywiaeth o gynrychiolaeth ddaearyddol a chyfrwng, gydag artistiaid o bedair gwlad wahanol yn archwilio posibiliadau realiti estynedig, ffilm ganghennog, sinema estynedig a gosodwaith theatrig rhyngweithiol.
Mae’r gweithiau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn dangos rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon grymus; yn gwneud cynulleidfaoedd yn rhan weithredol ac annatod o'r darn; ac yn defnyddio technolegau i wella, i gynyddu neu i effeithio ar ein hymdeimlad o realiti. Mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi cael eu harddangos mewn gŵyl, ar daith neu yn rhaglen lleoliad neu ganolfan rhwng mis Ionawr 2024 a mis Gorffennaf 2025 er mwyn bod yn gymwys.
Mae rhestr fer gyntaf Gwobr Annwn wedi'i dethol gan bwyllgor dewis, sy'n cynnwys chwech aelod o banel enwebu ehangach o guraduron a sylwebyddion rhyngwladol: Mark Atkin, cyfarwyddwr, Crossover Labs; Ana Brzezinska, curadur ymdrochol, Barbican/Moment Factory; Samantha King, pennaeth rhaglen, VIVE Arts; Ellen Kuo, pennaeth marchnad realiti ymestynnol, Gŵyl Newimages; David Massey, uwch gynhyrchydd technoleg greadigol ac adrodd straeon, Canolfan Mileniwm Cymru; Tom Millen, cyfarwyddwr, Crossover Labs.
Mae'r Wobr, a lansiwyd yn 2025 gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac a gynhyrchwyd gyda Crossover Labs, yn garreg filltir newydd yn y calendr celfyddydau byd-eang. Gyda chefnogaeth Peter a Janet Swinburn, bydd yr artist neu'r stiwdio fuddugol yn cael £20,000 ynghyd â phreswylfa bwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.
Meddai prif swyddog creadigol a chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow:
“Mae ein rhestr fer gyntaf yn cynrychioli’n union yr hyn y sefydlwyd Gwobr Annwn i’w ddathlu: gallu arloesol gwaith adrodd straeon ymdrochol i daro tant gyda ni mewn ffyrdd newydd ac unigryw. Mewn ffurf sy’n esblygu’n gyflym ac sy’n cynnig cymaint o bosibiliadau, mae creadigrwydd diderfyn yr artistiaid sy'n gweithio yn y ffurf yn anhygoel – ac yn sicr mae'r pedwar gwaith sydd ar y rhestr fer ar flaen y gad yn hynny o beth. Llongyfarchiadau mawr i'r artistiaid sydd ar y rhestr fer ac edrychwn ymlaen i ddod â'u gweithiau rhyfeddol i gynulleidfaoedd Canolfan Mileniwm Cymru yn y gwanwyn.”
Meddai’r pwyllgor dewis ar gyfer y rhestr fer:
“Mae pwyllgor dewis Gwobr Annwn yn falch iawn o gyhoeddi pedwar gwaith, sy’n dathlu rhagoriaeth, gwaith adrodd straeon a medrusrwydd. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi dewis detholiad sy'n gwthio ffiniau gwaith adrodd straeon ac adloniant a hefyd yn cynnal safonau uchel o ran hyfedredd technegol a llwyfannu. Mae'r rhestr fer yn archwilio themâu brys ac ingol fel anghyfiawnder cymdeithasol, gwirionedd, cariad, a natur bodolaeth ei hunan. Fel pwyllgor rydyn ni wedi mwynhau'r cyfle i ddod ynghyd i gynnal sgyrsiau gonest a beirniadol am y gwaith ymdrochol rhyfeddol sy'n cael ei greu gan artistiaid ledled y byd. Mae’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ymgorffori’r hyn mae Gwobr Annwn yn ceisio’i ddathlu ac yn dangos posibiliadau helaeth y ffurf ar gelf ei hunan.”
Cenhadaeth Gwobr Annwn yw darparu llwyfan byd-eang i ddyrchafu gwaith adrodd straeon ymdrochol fel un o golofnau hanfodol mynegiant diwylliannol, dathlu artistiaid arloesol a gyrru trafodaeth feirniadol o'r ffurf yma ar gelfyddyd, gan ddod â gwaith eithriadol a grymus i gynulleidfaoedd gwledydd Prydain.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd newydd o adrodd straeon gan ddefnyddio technoleg ymdrochol a chrewyr llwyddiannus sy'n gweithio ar y groesffordd rhwng celf a thechnoleg. Yn 2022, lansiodd y ganolfan Bocs, gofod pwrpasol ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti ymestynnol, ac yn 2024 datgelodd gynlluniau ar gyfer canolfan berfformio arloesol a digidol-yn-gyntaf, fel rhan o ymrwymiad parhaus i ddyfodol creadigrwydd yng Nghymru.
Dysgwch mwy am y Wobr Annwn: annwnprize.com