Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gwnewch apwyntiad i weld Dr Ranj Singh

Gwnewch apwyntiad i weld y cyflwynydd a meddyg teledu poblogaidd Ranj Singh yng Nghaerdydd!

Cafodd & Juliet rediad rhyfeddol yn y West End yn Llundain, gan ennill tair Gwobr Olivier a chwe Gwobr WhatsOnStage, ac mae bellach ar daith ledled y DU. Yn fwyaf adnabyddus fel yr arbenigwr meddygol preswyl ar This Morning (2016–2022) ac am ddawnsio gyda Janette Manrara yn Strictly Come Dancing yn 2018, mae Ranj Singh yn perfformio mewn sioe gerdd broffesiynol am y tro cyntaf fel Lance Du Bois, cymeriad bywiog a doniol.

Ar ddiwedd y dydd llawenydd yw thema & Juliet a dwi mor falch o fod yn rhan o sioe fel hyn

Ranj Singh (Lance) Sandra Marvin (Angelique) © Matt Crockett

I bobl sy’n meddwl eu bod nhw’n gwybod stori Romeo and Juliet, sut mae’r sioe yn newid pethau?

Romeo and Juliet yw un o'r straeon cariad mwyaf adnabyddus erioed a bydd gan bobl syniad da o beth sy’n digwydd ar y diwedd. Y tro annisgwyl yn & Juliet yw ei bod yn gofyn: Beth fyddai wedi digwydd pe na bai Juliet wedi marw? Beth pe bai hi wedi gallu ailysgrifennu’r stori? Mae’n ffordd glyfar iawn o fframio’r stori a hefyd, dwi’n meddwl, yn ffordd fodern o’i chyflwyno mewn ffordd amrywiol sy’n grymuso menywod. Mae’n llawer o hwyl, mae’n anfarwol ac mae’n ffantastig.

Dyma dy dro cyntaf yn ymddangos mewn sioe gerdd. Wyt ti’n nerfus?

Yn bendant a pe na bawn i fydden i’n poeni achos mae’n rhywbeth mawr i mi. Mae’n rhywbeth dwi wedi bod eisiau ei wneud ers amser hir iawn ac yn rhywbeth dwi wedi bod yn gweithio arno’n galed tu ôl i’r llên i wneud iddo ddigwydd.

Mae pob cân yn wych a chefais fy magu ar lawer o’r gerddoriaeth yma

Ranj Singh (Lance) Sandra Marvin (Angelique) © Matt Crockett

Pwy yw Lance a beth yw ei rôl yn y stori?

Lance yw tad François ac mae’n gyn-filwr o Ffrainc sydd eisiau i’w fab ddilyn yr un llwybr drwy wneud y peth cywir a’r peth disgwyliedig. Ond mae gan François syniadau eraill ac mae eisiau gweld y byd mewn ffyrdd gwahanol, felly maen nhw’n trafod eu perthynas mewn ffordd. Mae Lance yn hwyl. Mae ychydig yn ddigywilydd ac mae ganddo ei stori gariad fach ei hun yn y sioe, lle mae’n cynnau tân ar hen aelwyd.

Wyt ti’n ffan o’r gerddoriaeth bop sydd wedi’i chynnwys yn y sioe?

Mae’n llawn caneuon pop mae pawb yn eu caru. Mae’n seiliedig ar gerddoriaeth Max Martin, sy’n un o gyfansoddwyr caneuon pop mwyaf llwyddiannus y ganrif. Mae wedi ysgrifennu i bawb o Britney i Backstreet Boys, Jessie J i Ariana Grande a Kelly Clarkson – yr holl ganeuon hynny rydych chi’n mwynhau eu canu yn y car, yn y gawod, neu pan rydych chi allan yn dawnsio. Mae pob cân yn wych a chefais fy magu ar lawer o’r gerddoriaeth yma. Gyda’r caneuon Backstreet Boys, er enghraifft, dyna pan oeddwn i yn fy arddegau felly mae’n hiraethus iawn i mi.

Rydyn ni’n gwybod o Strictly, All Star Musical a dy sioe West End Scrubs & Sparkles dy fod di’n gallu dawnsio a chanu. Sut wyt ti’n paratoi ar gyfer yr agwedd actio?

Dwi wedi gwneud ychydig bach o theatr yma ac acw a dwi hefyd wedi gwneud panto dros y blynyddoedd, ond dwi’n cymryd y rôl yma o ddifrif. Dwi wedi canu a dawnsio lot o’r blaen ond dwi eisiau gwneud yn siŵr bod fy actio mor dda â phosib a bod y rôl yn cael chwarae teg. Dwi wedi bod yn cael dosbarthiadau ychwanegol gyda hyfforddwr actio ac mae wedi bod yn broses ymarfer hir am reswm. Dwi’n amsugno cyfarwyddiadau, yn ogystal â dysgu gan fy nghyd-berfformwyr anhygoel.

Dwi’n amsugno cyfarwyddiadau, yn ogystal â dysgu gan fy nghyd-berfformwyr anhygoel

Ranj Singh (Lance Du Bois) © Danny Kaan

Mae’n sioe gerdd gynhwysol iawn. Oedd hynny’n rhan o’r apêl i ti fel eiriolwr LHDTC?

Yn bendant. Cant a deg y cant. Dwi’n credu’n gryf bod cynhwysiant ac amrywiaeth yn gryfder ac mae pethau ond yn gwella pan rydych chi’n ceisio bod mor amrywiol a chynhwysol â phosib. Mae hynny’n wir am y sioe yma. Mae ganddi gast mor amrywiol ac mae’n sioe mor gynhwysol. Gobeithio bydd cynulleidfaoedd sy’n dod i weld y sioe yn gweld eu hunain ynddi. Mae’n bwysig i deuluoedd, pobl ifanc a phlant sy’n dod i wylio allu gweld ychydig o’u hunain ar y llwyfan a meddwl: ‘Dwi’n gallu gwneud hwnna. Mae rhywun fel fi ar y llwyfan a dwi’n teimlo fy mod i mewn lle diogel sy’n cael ei ddathlu.’ Dwi eisiau i bawb deimlo’r llawenydd hwnnw. Ar ddiwedd y dydd llawenydd yw thema & Juliet a dwi mor falch o fod yn rhan o sioe fel hyn.

Mae ganddi gast mor amrywiol ac mae’n sioe mor gynhwysol

Mae & Juliet yn dod i Gaerdyd o 16 – 28 Mehefin 2025

Tocynnau →