Pan rydych chi’n meddwl am Ganolfan Mileniwm Cymru, un o’r pethau sy’n dod i’r meddwl ar unwaith yw barddoniaeth. Y geiriau sy’n addurno blaen ein hadeilad sy’n sefyll yn brydferth uwchben Bae Caerdydd. Wrth i ni droi’n 20 oed, mae cerdd ddathliadol wedi cael ei chomisiynu, a’r geiriau chwe throedfedd yma oedd yr ysbrydoliaeth.
Mae Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn cyflwyno Dreams Building, cerdd hyfryd sy’n llawn darluniau a phosibilrwydd.
Dreams Building
As autumn glows its charcoal gold, bright thoughts wander in
through eyes of wonder and welcome. These
are the ways we enter a dream. There are stones
below a grey sea flickering at your feet. Above, horizons
beckon as truth catches the light. Slate and steel sing
of stories reclaimed. Schoolkids and curious stars cluster
on the balcony watching awen sprout from the forests or pillars
and they know the building is dreaming. Dreams building,
billowing shapes, furnaced from the real and imagined. Full,
they follow the drifting children out through glass doors.
Watch them float away, seeking all the spaces a dream can take root.
Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru
Gofynnwyd i Hanan ysgrifennu cerdd ar gyfer pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru yn 20 oed, a daeth o hyd i’w hawen ar ôl cyfweld â Gwyneth Lewis, a ysgrifennodd yr arysgrif ar ein hadeilad. Daeth y beirdd at ei gilydd am sgwrs ar gyfer ffilm i ddathlu 20 mlwyddiant yr adeilad.
Gwyliwch y cyfweliad yma.
Meddai Hanan ‘Dwi wedi defnyddio anecdot gan Gwyneth o’n cyfweliad lle dywedodd hi ei bod wedi clywed plentyn yn dweud ei bod hi’n edrych fel petai’r adeilad yn breuddwydio, a dyma ffrâm ‘stori’r’ gerdd.
‘Dwi wedi ceisio ymgorffori rhai elfennau o bensaernïaeth a deunyddiau’r adeilad ac mae rhai cyfeiriadau at gynghanedd yn ogystal ag RS Thomas hefyd – daeth y cerrig yn y carped wrthoch chi!’
Fel sy’n aml yn wir gyda barddoniaeth, mae’r strwythur a phwysigrwydd pob gair yn benodol ac yn ystyrlon.
‘Mae’r hanner cyntaf yn beth rydyn ni’n ei alw’n ‘rhaw aur’, sy’n golygu bod geiriau olaf pob llinell yn creu dyfyniad (llinellau eiconig Saesneg Gwyneth yn yr achos yma)’ meddai Hanan. ‘Mae cyfieithiad o linell Cymraeg Gwyneth wedi’i ymgorffori yn y gerdd hefyd, ond dwi wedi cadw’r gair ‘Awen’ yn yr iaith wreiddiol.’
Rydyn ni mor falch o fod wedi comisiynu’r gwaith newydd yma a pharhau i rannu pwysigrwydd a chyfleoedd barddoniaeth. Fe’ch gwahoddwn i ddarllen llinellau Hanan, ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru a chyfansoddi eich cerddi eich hun a’u rhannu â’r byd.
Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd, mae’r pensaer Jonathan Adams yn rhannu’r ysbrydoliaeth tu ôl i ddyluniad ein hadeilad gyda’r artist amlddisgyblaethol a chydlynydd Platfform Tia-zakura Camilleri. Gallwch wylio'r cyfweliad llawn ar ein sianel YouTube.