Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
MARY POPPINS. Company. Photo by Danny Kaan

Dymuniadau'r Nadolig

Gyda'r Nadolig ar y gorwel, gadewch i ni eich helpu i ddod o hyd i'r anrhegion perffaith ar gyfer eich anwyliaid.

Anghofiwch y mân bethau a dewiswch noson fythgofiadwy yn y theatr. Gyda dramâu gwefreiddiol, sioeau cerdd hyfryd, perfformiadau dawns ysblennydd a ffefrynnau i’r teulu cyfan, mae rhywbeth at ddant pawb.

Single White Female

27–31 Ionawr 2026

Mae'r ffilm iasol eiconig o'r 90au a roddodd ystyr newydd i sawdl stileto yn camu i'r llwyfan am y tro cyntaf. Gyda Kym Marsh yn serennu, mae hon yn stori afaelgar am uchelgais, obsesiwn a chyfrinachau. Byddwch yn ofalus gyda pwy rydych chi’n rhannu eich cartref!

Dod o hyd i docynnau

Matthew Bourne's Production of The Red Shoes

3–7 Mawrth 2026

Mae ffenomen ddawns epig ac arobryn Matthew Bourne yn dychwelyd y flwyddyn nesaf i ryfeddu cynulleidfaoedd o'r newydd. Mae Victoria Page yn ddawnswraig dalentog, ond wrth iddi gyrraedd uchelfannau ei phroffesiwn mae ei huchelgais yn ysgogi brwydr ffyrnig rhwng y dynion sy'n rhannu ei hangerdd. Dewch am y ddawns a mwynhewch y setiau a'r gwisgoedd trawiadol.

Dod o hyd i docynnau

The Lightning Thief, The Percy Jackson Musical

21–24 Ionawr 2026

Torrwch dywyllwch y gaeaf a dewch â’ch anwyliaid am brofiad epig mewn dimensiwn arall. Mae dyfodol y byd yn y fantol wrth i Percy a'i ffrindiau gychwyn ar antur wefreiddiol a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd. Y sioe berffaith i blant ac oedolion 8 oed a hŷn.

Dod o hyd i docynnau

The Shawshank Redemption

13–17 Ionawr 2026

Yn seiliedig ar y ffilm a enillodd Oscar ym 1994, mae'r cynhyrchiad llwyfan clodwiw o The Shawshank Redemption yn ôl. Treuliwch amser gydag Andy wrth iddo oroesi bywyd yn y carchar, creu cyfeillgarwch annhebygol a gweithio ar gynllun uchelgeisiol sydd â siawns o weithio.

Dod o hyd i docynnau

Mary Poppins

3 Rhagfyr 2025 – 10 Ionawr 2026

Anrheg sydd bron yn berffaith ym mhob ffordd. Dewch â'r teulu cyfan i'r theatr yn yr wythnos hamddenol honno ar ôl y Nadolig. Gyda chaneuon oesol, coreograffi disglair a thamaid o hud, mae'r sioe fyd enwog hon yn brofiad na ddylid ei golli’r Nadolig hwn.

Dod o hyd i docynnau

Barnum The Circus Musical

17–21 Mawrth 2026

‘Roll up, roll up!’ Croesawch y Gwanwyn braf gyda byd disglair PT Barnum, perfformiwr syrcas gorau’r byd. Lee Mead yw Barnum, yn y sioe ysblennydd hon sy'n llawn caneuon sioe clasurol a champau syrcas anhygoel.

Dod o hyd i docynnau

TINA

10–28 Chwefror 2026

Darganfyddwch stori ysbrydoledig brenhines Roc a Rôl, Tina Turner. Gyda thrac sain yn llawn o'i chaneuon mwyaf eiconig, dyma ddathliad gwefreiddiol menyw a fentrodd breuddwydio, chwalodd rwystrau a daeth i frig y byd cerddoriaeth.

Dod o hyd i docynnau

Here & Now

3–7 Chwefror 2026

Dyma'r sioe nad oeddech chi'n gwybod bod ei hangen arnoch. Rhowch anrheg bop hiraethus gyda Here & Now, y sioe gerdd newydd ddoniol a chalonogol sy'n seiliedig ar ganeuon y ffenomen pop, Steps.

Dod o hyd i docynnau

Horrible Histories - The Concert

1 Chwefror 2026

Am y tro cyntaf erioed, bydd eich hoff ganeuon a chymeriadau o’r gyfres deledu CBBC sydd wedi ennill gwobr BAFTA, yn ymddangos yn fyw (ac yn farw) ar y llwyfan mewn cynhyrchiad arbennig iawn!

Dod o hyd i docynnau

Bluey's Big Play 

7 – 10 Mai 2026

Yn dilyn galw mawr, mae Bluey, Bingo, Bandit a Chilli yn dychwelyd i Gaerdydd yn y sioe lwyfan a gafodd ei henwebu am wobr Olivier, Bluey’s Big Play.

Dod o hyd i docynnau

Ac yn olaf...

The Big Burlesque Panto

17 – 31 Rhagfyr

Pwy sy'n dweud bod yn rhaid cadw anrheg ar gyfer dydd Nadolig? Dewch â'ch ffrindiau, eich cariad, eich teulu i Clwb Cabaret Caerdydd yn Cyflwyno: The Big Burlesque Panto. Sioe sy'n llawn dop o hwyl yr ŵyl i godi gwen drwy yn ystod mis Rhagfyr.

Dod o hyd i docynnau

Gormod o ddewis?

Mae ein Tystysgrifau Rhodd yn ddilys am 12 mis a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw sioe neu yn ein bariau theatr.

Neu, i bobl sy’n dod i’r theatr yn aml, cymerwch olwg ar ein cynlluniau aelodaeth. Maen nhw’n cynnig manteision gwych drwy’r flwyddyn fel cyfnodau archebu â blaenoriaeth, gostyngiad o 20% yn ein bariau theatr a Ffwrnais, cynigion arbennig ar docynnau a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost.

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy arbennig, mae enwi sedd yn ein hawditoriwm eiconig yn ffordd unigryw a hirdymor o fynegi eich cariad, dangos eich edmygedd neu ddathlu bywyd.