Gyda Llais 2024 yn agosáu, gofynnon ni i’r cerddor Georgia Ruth archwilio’r lein-yp gwych ac eclectig a gwrando ar ambell i gân gan artistiaid a fydd yn gwefreiddio Bae Caerdydd.
Pa mor dda ydych chi’n adnabod lein-yp Llais? Pa berl anhysbys cudd sy’n swatio yn y rhaglen i chi ei ddarganfod? Mae’r gantores a chyflwynydd BBC Radio Cymru (ac un o enwebeion y Wobr Gerddoriaeth Gymreig) Georgia Ruth yn ymateb i ganeuon gan artistiaid mae’n eu hadnabod, a rhai sy’n cael eu cyflwyno iddi am y tro cyntaf. Ond pa gân mae hi’n bwriadu ei chwarae’n uchel ar y radio wrth iddi yrru lawr Gelli Angharad yn Aberystwyth?
Gwyliwch y fideo isod.
Gwrandewch yn fwy astud gyda’r rhestr chwarae yma.
Artistiaid a chaneuon:
1: Joan As Police Woman - Long For Ruin
3: The Breath - Too Many Have Gone
4: Georgia Ruth - Driving Dreams
5: Fabiana Palladino - Stay With Me Through The Night
6: The Mystery of the Bulgarian Voices, Georgi Andreev and Quarto Quartet - Sama Li Si (live)