Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Llais 2025: Cyhoeddi'r actau cyntaf

Yr hydref yma, mae Llais yn dychwelyd yn uwch, yn fwy beiddgar, ac yn fwy bythgofiadwy nag erioed.

O eiconau byd-eang a ffefrynnau’r dorf i dalent newydd syfrdanol, mae Llais 2025 (6 - 12 Hydref) yn dwyn ynghyd y doniau cerddorol mwyaf trydanol o dan un to. Dim mwd. Dim glaw. Dim ond sain o'r radd flaenaf, perfformiadau syfrdanol ac wythnos o gerddoriaeth drawsnewidiol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae sioe unigol, unigryw gan Rufus Wainwright, a dychweliad yr eicon indie o Gymru Cate Le Bon, sy’n cyflwyno albwm newydd. Mae Adwaith yn nodi eu dengmlwyddiant gyda dwy sioe arbennig, tra bod y gantores-gyfansoddwraig a’r ymgyrchydd eiconig Beverly Glenn-Copeland, ynghyd â’r gwestai arbennig Elizabeth Copeland, yn gwneud ymddangosiad prin yn y DU i ddathlu dros 50 mlynedd o gelfyddyd sy’n herio pob genre.

Mae'r ŵyl hefyd yn croesawu sêr Soul yr Unol Daleithiau, Annie and the Caldwells, y canwr soddgrwth arbrofol o Guatemala, Mabe Fratti, y seren jazz o Mongolia Enji, yr artistiaid o Orllewin Affrica sy'n plethu genres, Vieux Farka Touré a Trio Da Kali, ac egni ffrwydrol Ibibio Sound Machine. Cynrychiolir adfywiad cerddoriaeth werin Iwerddon gan harmonïau a cappella Landless a cherddoriaeth electronig arloesol RÓIS.

Gall cynulleidfaoedd hefyd ddisgwyl perfformiadau gan enwebeion y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a dathliad o leisiau operatig gorau BBC Canwr y Byd Caerdydd: Dathliad.

Bydd gŵyl eleni hefyd yn cynnwys Ceci est mon cœur (Dyma fy Nghalon) – profiad ymdrochol pwerus newydd, wedi’i gyfarwyddo gan Nicolas Biles a Stéphane Hueber-Blies. Mae'r darn yn archwilio stori garu ryfeddol: cymod plentyn â'i gorff. Profiad barddonol, aml-synhwyraidd clywedol, yn adrodd stori fel na theimlwyd erioed o'r blaen.

Mae rhai perfformiadau’n dal i fod yn gyfrinachol – ond credwch ni, fe fyddwch chi’n bendant am gadw golwg am unrhyw gyhoeddiadau.

 

 

BETH YW LLAIS?

Mae Llais yn wythnos o gerddoriaeth, perfformio ac adrodd straeon, ac yn ganolog i’r holl beth mae’r offeryn mwyaf pwerus mae pawb yn ei rannu: y llais dynol.

O hud Mali a meistrolaeth lais arloesol o Efrog Newydd, i enwogion indie Cymreig, jazz Mongolia, disgo Gospel, harmoni cyfriniol Gwyddelig ac avant-pop o Gwatamala, mae Llais yn lle i ddarganfod sain heb ffiniau.

Nid gŵyl yn unig mohoni. Mae'n ddathliad i'r offeryn mwyaf pwerus rydyn ni i gyd yn ei rannu, ein llais.

“Mae Llais yma i fwydo’ch enaid mewn ffyrdd na all unrhyw algorithm eu gwneud. Mae'r artistiaid hyn yn rhai go iawn, maen nhw’n fyw ac yn herfeiddiol. Mentrwch oddi ar eich llwybr arferol a dewch i brofi rhai o’r lleisiau gorau ar y blaned.”

Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru

ADEILADU EICH GŴYL

Dewiswch eich sioeau. Archebwch eich seddi. Profwch yr hud – i gyd mewn un lleoliad eiconig.

Dim maes. Dim welis. Dim straen.
Dim ond lleisiau disglair, sain ysbrydoledig, a chysylltiad cerddorol.

Gostyngiadau sioeau lluosog:

  • 10% i ffwrdd wrth archebu 2 sioe
  • 15% i ffwrdd wrth archebu 3 neu fwy

LLAIS 2025. Mae i’w glywed. Mae i’w deimlo. Fyddwch chi ddim yn ei anghofio.

 

Gallwch chi gael yr holl newyddion diweddaraf am Llais drwy ein dilyn ni ar Facebook, TikTok neu Instagram. 

 

Mae Llais yn rhan flaenllaw o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad pythefnos o hyd o gigs, digwyddiadau, gosodiadau, a pop-yps, sy’n harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformiadau a thechnoleg i uno ac i ysbrydoli.

dinasgerddcaerdydd.cymru