Wedi'i hysbrydoli gan yr offeryn sy'n cysylltu bob un ohonom – y llais – mae ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol yn ôl gydag enw newydd a lein-yp amrywiol.
Bydd Llais (Gŵyl y Llais gynt) yn llenwi pob cornel o Ganolfan Mileniwm Cymru o 26 – 30 Hydref, gan ddechrau gyda seremoni'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Croesawwn John Cale yn ôl, a fu'n perfformio yn yr Ŵyl y Llais gyntaf yn 2016, sy'n dychwelyd ym mlwyddyn ein 80fed penblwydd ar gyfer perfformiad un tro arbennig gyda Sinfonia Cymru a gwesteion arbennig, ac i drafod ei fywyd a'i gyrfa.
Bydd Death Songbook gan Brett Anderson o Suede, Charles Hazlewood, a Paraorchestra, a ymddangosodd gyntaf yng Ngŵyl 2021 y llynedd, yn cael ei berfformio'n fyw o flaen cynulleidfa fyw am y tro cyntaf.
Hefyd yn camu i lwyfan eiconig Theatr Donald Gordon fydd y pianydd jazz o Dde Affrica Abdullah Ibrahim, y band roc o Loegr black midi a'r Cymraes Cate Le Bon.
A cheir digonedd yn digwydd ar draws yr adeilad, gan gynnwys profiadau digidol, trafodaethau, gweithdai a rhagor o gerddoriaeth fyw gan Midlake, Bombino, caroline, Tara Clerkin Trio, Keeley Forsyth a Les Amazones d'Afrique.
Ac ar ben bob dim, rydym yn hynod falch o groesawu'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eiconig i'r ŵyl. Mae hynny'n teimlo fel y cyfuniad cerddorol perffaith.”
Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig
Mwy i'w gyhoeddi ym mis Medi - gan gynnwys gweithdai a digwyddiadau am ddim!
#LLAIS2022