Mae 2025 yn addo rhagor o sioeau cerdd ysblennydd, dramâu gwefreiddiol a pherfformiadau dawns hyfryd, heb sôn am ddychweliad Nye, ein cydgynhyrchiad hynod boblogaidd gyda'r National Theatre. Os nad ydych chi wedi'i weld eto, dechreuwch eich blwyddyn o theatr gyda Hamilton, sydd yma tan 25 Ionawr.
Opera Cenedlaethol Cymru

Mae Tymor Gwanwyn 2025 Opera Cenedlaethol Cymru yn cyfuno cariad, chwerthin a chlymau o gariad gyda thonnau trasiedi sy'n corddi'r dyfroedd. Byddwch yn barod am gorwynt o gynlluniad clyfar a gwychder melodig Mozart yn The Marriage of Figaro, tra bod Peter Grimes yn stori am unigedd a rhagfarn.
The Lion, the Witch and the Wardrobe

11–15 Chwefror
Gwyliwch y stori boblogaidd yn dod yn fyw ar y llwyfan yn y cynhyrchiad ysblennydd yma sy'n siŵr o swyno pobl o bob oed. Paratowch am antur oes.
An Inspector Calls

18–22 Chwefror
Yn fwy perthnasol nawr nag erioed, mae cynhyrchiad arobryn y National Theatre o ddrama gyffrous JB Priestley yn sioe arbennig i genhedlaeth newydd sbon.
Calamity Jane

11–15 Mawrth
Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd gyda Doris Day, mae Carrie Hope Fletcher yn serennu yn y comedi cerddorol yma. Mae'n cynnwys caneuon clasurol fel Just Blew in from the Windy City a Secret Love, a enillodd Oscar.
Matthew Bourne's Swan Lake

22–26 Ebrill
Mae'r cynhyrchiad gwefreiddiol yma a newidiodd ballet am byth yn adnabyddus am newid y corps-de-ballet benywaidd i ensemble gwrywaidd bygythiol, gan chwalu traddodiad.
Dear Evan Hansen

29 Ebrill – 3 Mai
Wedi'i ddisgrifio fel sioe gerdd y genhedlaeth, i bob cenhedlaeth, mae ffenomenon Broadway a'r West End yn cynnwys rhai o ganeuon theatr gerdd mwyaf y ddegawd diwethaf.
& Juliet

16–28 Mehefin
Mae'r sioe gerdd hynod ddoniol yma sy'n gwrthdroi stori gariad enwog Shakespeare, gan yr awdur a ysgrifennodd Schitt's Creek ac a enillodd Emmy, yn cynnwys rhestr chwarae o anthemau pop gan Britney Spears, Katy Perry a mwy.
The Book of Mormon

1–19 Gorffennaf
Mae'r comedi cerddorol cywilyddus gan greawdwyr South Park wedi ennill naw gwobr Tony a'r teitl Sioe Gerdd Orau yn yr Oliviers bedair gwaith!
Ghost Stories

29 Gorffennaf – 2 Awst
Mae'r ffenomenon byd-eang yma yn fwy iasol ac arswydus nag erioed o'r blaen. Profiad theatraidd unigryw a fydd yn eich cadw chi ar flaen eich sedd.
Nye

22–30 Awst
Yn dilyn galw mawr, mae'r daith drawiadol drwy fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les, gyda Michael Sheen yn y brif ran, yn dychwelyd yn yr haf.
War Horse

15–25 Hydref
Mae'r profiad theatraidd epig yma sy'n mynd â chynulleidfaoedd ar daith o gaeau gwledig Dyfnaint i ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf yn sioe o ddyfeisgarwch rhyfeddol.
Six

28 Hydref – 8 Tachwedd
Mae chwe gwraig Harri VIII 'nôl ac maen nhw'n cymryd y meic i adrodd eu straeon, gan gydblethu pum can mlynedd o dor-calon hanesyddol mewn dathliad 80 munud o bŵer merched yr 21ain ganrif.
Hefyd yn dod yn 2025...
Ghost The Musical, Chicago, Cruel Intentions: The '90s Musical, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat a The Last Laugh, a dim ond rhaglen ein Theatr Donald Gordon yw hynny. Cofiwch gadw llygad ar dudalennau tymor Cabaret a Bocs i weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn ein lleoliadau eraill.
Mae cyhoeddiadau am fwy o sioeau cyffrous i ddod o hyd ar gyfer 2025 – i fod ymhlith y cynaf i wybod, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Ydych chi'n dod i'r theatr yn rheolaidd? Ymaelodwch i gael blaenoriaeth wrth archebu, yn ogystal â gostyngiad o 20% ar fwyd a diod a chynigion arbennig ar docynnau.
Cofiwch, mae pob tocyn a brynwch yn ein helpu ni i drawsnewid mwy o fywydau ifanc, meithrin doniau Cymreig creadigol a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gartref i bawb yn ein cymuned.