Mae tîm cymunedol Canolfan Mileniwm Cymru yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf mewn cymdeithas yn cael cyfle i fod yn greadigol yn ein gofodau, boed hynny’n arwain digwyddiadau, yn arddangos gweithiau celf neu’n cynnal gweithdai.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cynnal cyfres o alwadau sy'n talu pobl i wneud nifer o'r pethau yma. Mae pawb sy’n gwneud cais yn cael cyfle i bleidleisio ar bob galwad er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhai a gaiff eu dewis yn cael eu dewis yn ddemocrataidd a heb ofn beirniadaeth.
Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig arddangos yr holl ddoniau gwych yn ein cymuned, i flaenoriaethu’r rhai sy’n cael y lleiaf o’r sylw gan greu gofod diogel lle mae croeso i bawb a phawb yn cael eu dathlu.
Dyma rai o’n galwadau yn y gorffennol:
Galwad am Gelf Gyhoeddus: Gaeaf | Canolfan Mileniwm Cymru

Eleni, rydyn ni wedi penderfynu gwneud ychydig o newid ac rydyn ni’n cynnig cyfle i grwpiau ac unigolion ddod i gwrdd â'r tîm naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb fel y gallwn eich cefnogi i ddatblygu eich syniad a’i ddychmygu yn y gofod. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau pleidleisio wyneb yn wyneb (gallwn gefnogi presenoldeb ar-lein ar gyfer y rhai na allant ddod i’r digwyddiad) fel bod modd i bob syniad gael ei gyflwyno ar y diwrnod a chyfle i fwrw pleidlais.
Yn yr alwad yma rydyn ni’n canolbwyntio ar weithdai, un arddangosfa ac un dathliad diwylliannol. Byddwn yn cynnal galwadau pellach ar gyfer tair arddangosfa arall yn Ffwrnais, dathliadau diwylliannol ychwanegol – gan gynnwys un ar 30 Tachwedd i ddathlu Alban Arthan – a nifer o rai eraill.
Os oes gennych syniad penodol ac nad oes angen cefnogaeth arnoch, anfonwch unrhyw ddolenni at eich gwaith ac un sleid PowerPoint yn egluro eich syniad/cynnig a byddwn yn archebu lle i chi ar gyfer y digwyddiad pleidleisio a fydd yn digwydd ar 30 Ebrill 2025.
Bydd y digwyddiad pleidleisio yn cael ei gynnal yn Cabaret lle byddwn yn cyflwyno eich sleid i’r grŵp, ac mae croeso i chi ddweud ychydig eiriau cyn i’r bleidlais gael ei chynnal. Os na allwch ddod i’r digwyddiad gallwn dderbyn eich pleidleisiau drwy e-bost. Mae’r model democrataidd yma wedi’i gynllunio dros nifer o flynyddoedd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu perchnogi’r broses, yn ogystal â bod â chyfrifoldeb a rennir a’u bod yn cael eu cefnogi gan ddulliau democrataidd sy’n hygyrch ac yn dryloyw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Shared Future - Cyllidebu Cyfranogol
Ar gyfer pob comisiwn, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru neu o Gymru.
Galwad Gweithdy
Oes gennych chi syniad ar gyfer gweithdy creadigol sy’n gallu dod â pobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau? Rydyn ni’n chwilio am unigolion neu sefydliadau i gynnal gweithdai creadigol hwyliog a deniadol rhwng cenedlaethau i’w cyflwyno yn ein gofodau cyhoeddus.
Am beth rydyn ni’n chwilio:
- Dau weithdy 3–4 awr (mynediad agored neu angen archebu)
- Dylai sesiynau chwalu rhwystrau cyfranogi, gan groesawu pobl nad ydyn nhw fel arfer yn ymgysylltu â’r celfyddydau
- Sesiynau rhwng cenedlaethau a hygyrch – gallai’r syniadau gynnwys:
- Gwnïo a gwau
- Drymio a chanu
- Ysgrifennu barddoniaeth pync
- Gwaith crefft Pasg
...a mwy – rydyn ni eisiau clywed eich awgrymiadau!
Sut mae’n gweithio: Bydd gweithdai yn cael eu dewis drwy ein model cyllidebu cyfranogol, lle bydd yr holl ymgeiswyr yn pleidleisio dros y cais sy’n gweddu orau i’r briff yn eu barn nhw. Mae hyn yn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chreu gennych chi, y gymuned.
Pryd a Ble:
Rhwng mis Mehefin 2025 a Mawrth 2026
Cyflwynir yn ein gofodau cyhoeddus yn ystod wythnos olaf bob mis (dyddiadau penodol i’w dewis gan bob prosiect creadigol).
Cyllideb: £700 (gan gynnwys deunyddiau) ar gyfer dau weithdy.
Themâu yn ôl mis
Mis Mehefin – Mis Balchder: Gweithdai sy’n dathlu 40 mlynedd o ddathliadau Balchder yng Nghymru yn enwedig gan bobl sy’n profi sawl ffurf groestoriadol ar ymyleiddio
- Mis Gorffennaf – thema agored
- Mis Awst – thema Carnifal
- Mis Medi – thema agored
- Mis Hydref – Blaenoriaeth i artistiaid o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol
- Mis Tachwedd – thema agored
- Mis Rhagfyr – Dathlu’r gaeaf
- Mis Ionawr – Santes Dwynwen
- Mis Chwefror – thema agored
- Mis Mawrth – y gwanwyn
Dathliad Diwylliannol
Bob blwyddyn rydyn ni’n cynyddu’r cyfleoedd i gymunedau gyflwyno eu digwyddiadau a’u perfformiadau eu hunain yn ein hadeilad.
Dathliad cyntaf: 8 Mehefin 2025 yn Glanfa.
Themâu: Agored i syniadau yn ymwneud ag Eid Al Adha, Mis Balchder a heuldro’r haf.
Cyllideb: £3,500 fesul digwyddiad.
Galwad Arddangosfa
Rydyn ni eisiau i’n harddangosfeydd adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog ein cymunedau ac adrodd y straeon sydd fwyaf pwysig.
Gosodwaith mis Mehefin: Balchder a Llawenydd yn eich cymuned
Pwy all ymgeisio? Artistiaid LHDTC+ yng Nghymru
Dyddiadau gosod: Wythnos 26 Mai 2025
Tâl: £2,500
Am beth rydyn ni’n chwilio: Gweithiau mewn unrhyw gyfrwng sy’n gallu cael eu hongian ym mar Ffwrnais
Cyflwyniadau ar y Cyd: Gall artistiaid ymgeisio yn unigol neu fel rhan o grŵp, ac rydyn ni’n agored i drefniadau rhannu tâl fel bod mwy o artistiaid yn gallu arddangos eu gwaith.
SUT I WNEUD CAIS
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau mis Mehefin: 23 Ebrill 2025
Digwyddiad pleidleisio: 30 Ebrill, amser i’w gadarnhau
Dyddiad cau pob cais arall: 16 Mai 2025
Byddwn yn cadarnhau dyddiad y digwyddiad pleidleisio unwaith y byddwn ni wedi derbyn eich cais.
I ymgeisio e-bostiwch community@wmc.org.uk
Anfonwch atom:
Disgrifiad sain, fideo neu ysgrifenedig o’ch syniad (ni ddylai disgrifiadau ysgrifenedig fod yn fwy na dau sleid PowerPoint)
- Enghreifftiau o waith/digwyddiadau blaenorol
- Dolenni i'ch proffiliau cyfryngau cymdeithasol neu ragor o wybodaeth am eich gwaith
Nodwch: bydd eich cais yn cael ei rannu gydag ymgeiswyr eraill er mwyn pleidleisio, felly dylech chi ond cynnwys gwybodaeth rydych chi’n gyfforddus ei rhannu yn gyhoeddus.
Allwn ni ddim aros i weld eich syniadau yn dod yn fyw!
Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â community@wmc.org.uk