Telerau ac amodau Raffle fisol
1. Hyrwyddwr
Yn y Telerau ac Amodau hyn, mae “ni” neu “ein” neu “Hyrwyddwr” yn golygu Canolfan Mileniwm Cymru, cwmni cyfyngedig drwy warant wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (Rhif Cwmni 3221924) ac elusen gofrestredig (Rhif Elusen 1060458), a’i swyddfa gofrestredig yw Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL.
2. Pwy sy’n gymwys
2.1 Mae’r raffl fisol ar agor i drigolion Prydain Fawr sy’n 18 oed neu’n hŷn.
2.2 Nid yw gweithwyr cyflogedig, gweithwyr llawrydd, contractwyr, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr Canolfan Mileniwm Cymru, nac unrhyw ddarparwyr gwobrau, partneriaid hyrwyddo, cwmnïau cysylltiedig, ac aelodau o'u teuluoedd agos neu eu haelwydydd, yn gymwys i gymryd rhan.
2.3 Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw’r hawl i fynnu prawf o oedran, hunaniaeth a chymhwysedd cyn dyfarnu gwobr.
2.4 Os canfyddir bod ymgeisydd yn anghymwys, mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru yr hawl i ddirymu'r cais a thynnu unrhyw wobr a ddyfarnwyd yn ôl.
3. Rheoliadau Loteri Cymdeithas
3.1 Mae'r Raffl Fisol yn cael ei gweithredu gan Ganolfan Mileniwm Cymru o dan gofrestr Loteri Cymdeithas Fechan a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd yn unol â Deddf Hapchwarae 2005.
Rhif Cofrestru Loteri Cymdeithas Fechan: SL0396
Deiliad y Cofrestriad: Canolfan Mileniwm Cymru
Awdurdod Cofrestru: Cyngor Caerdydd
3.2 Mae elw’r raffl yn cefnogi gweithgarwch elusennol Canolfan Mileniwm Cymru, gan helpu i greu cyfleoedd ar gyfer artistiaid, pobl ifanc a chymunedau drwy’r celfyddydau.
3.3 Ni chaniateir i unrhyw un o dan 18 oed brynu tocynnau nac i unrhyw berson brynu tocyn ar eu rhan.
3.4 Nid yw prynu tocyn yn gwarantu ennill gwobr.
4. Prynu Raffl
4.1 Mae tocynnau ar gael drwy dudalen we'r Raffl Fisol yn unig.
4.2 Mae tocynnau’n costio £5 oni nodir yn wahanol.
4.3 Gall cyfranogwyr brynu tocyn untro neu ddewis tanysgrifio er mwyn cystadlu yn y raffl fisol yn awtomatig.
4.4 Mae’n rhaid prynu tocyn raffl cyn 11.59pm ar ddiwrnod olaf y mis calendr perthnasol.
4.5 Mae’n bosib y bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn y raffl nesaf sydd ar gael, ond bydd hynny yn ôl disgresiwn yr Hyrwyddwr.
5. Tanysgrifio i’r Raffl
5.1 Mae cyfranogwyr sy'n dewis tanysgrifiad misol yn awdurdodi i'r ffi mynediad berthnasol gael ei chasglu’n awtomatig bob mis nes i’r tanysgrifiad gael ei ganslo.
5.2 Bydd y rhai sy’n tanysgrifio yn cael eu cynnwys yn awtomatig ym mhob raffl fisol ar yr amod bod taliad wedi'i dderbyn yn llwyddiannus cyn y dyddiad cau perthnasol.
5.3 Gall cyfranogwyr ganslo eu tanysgrifiad ar unrhyw adeg drwy eu cyfrif ar-lein neu drwy gysylltu â'r Tîm Codi Arian. Bydd eich tanysgrifiad yn cael ei ganslo o'r dyddiad talu nesaf ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw geisiadau sydd eisoes wedi'u prynu.
5.4 Os bydd taliad tanysgrifiad yn methu, ni ellir gwarantu mynediad i raffl y mis hwnnw.
6. Tynnu’r Raffl
6.1 Bydd y raffl yn cael ei thynnu ar ddiwedd diwrnod olaf pob mis calendr, neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.
6.2 Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o'r holl gynigion a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau.
6.3 Mae canlyniad y broses ddewis ar hap yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth ynghylch hynny.
7. Gwobrau
7.1 Bydd y wobr sydd ar gael i’w hennill bob mis yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we'r raffl a gall amrywio o fis i fis.
7.2 Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw'r hawl i roi gwobr arall o werth cyfartal neu fwy yn lle’r wobr a fwriadwyd os yw amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth yn gwneud hyn yn angenrheidiol.
7.3 Ni ellir trosglwyddo nac ad-dalu gwobrau, ac ni chynigir unrhyw opsiwn arian parod oni nodir yn benodol fel arall.
8. Hysbysu’r Enillydd
8.1 Cysylltir ag enillwyr gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd adeg cofrestru o fewn saith diwrnod i'r raffl ddigwydd.
8.2 Os na ellir cysylltu ag enillydd, os na fyddant yn ymateb o fewn 14 diwrnod, neu os na allant dderbyn y wobr, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw'r hawl i ddewis enillydd arall.
9. Cyhoeddusrwydd
9.1 Drwy dderbyn gwobr, mae enillwyr yn cytuno y gall Canolfan Mileniwm Cymru gyhoeddi eu henw cyntaf a'u sir breswyl at ddibenion hyrwyddo, rheoleiddio a thryloywder.
9.2 Gall enillydd wrthwynebu'r cyhoeddiad hwn drwy gysylltu â Chanolfan Mileniwm Cymru; fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i'r Hyrwyddwr ddarparu gwybodaeth am yr enillydd i reoleiddwyr neu awdurdodau perthnasol ar gais.
10. Diogelu Data
10.1 Bydd gwybodaeth bersonol a gaiff ei rhannu yn ystod y raffl hon yn cael ei phrosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol a Pholisi Preifatrwydd Canolfan Mileniwm Cymru.
10.2 Bydd gwybodaeth a ddarperir gan gyfranogwyr yn cael ei defnyddio ar gyfer gweinyddu'r raffl, dyrannu gwobrau ac unrhyw ddibenion eraill y mae'r cyfranogwr wedi cydsynio iddynt.
10.3 Gall Canolfan Mileniwm Cymru gadw gwybodaeth sy'n ymwneud â chymryd rhan yn y raffl lle bo angen hynny at ddibenion cyfreithiol, rheoleiddiol neu weinyddol.
11. Cyffredinol
11.1 Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw ymgeisydd sy'n torri'r Telerau ac Amodau hyn neu sy'n gweithredu mewn modd y gellir ei ystyried yn rhesymol yn dwyllodrus, yn gamarweiniol neu'n niweidiol i uniondeb y raffl.
11.2 Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw'r hawl i ddiwygio, atal dros dro neu ganslo’r raffl lle mae amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth resymol yn gwneud hyn yn angenrheidiol.
11.3 Drwy brynu tocyn, mae cyfranogwyr yn cadarnhau eu bod wedi darllen y Telerau ac Amodau hyn ac yn cytuno i fod yn rhwym iddynt.
11.4 Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr, a byddant yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.