Llais
Mae Llais wedi’i churadu fel wythnos o gyfarfyddiadau cerddorol rhyfeddol - gigs unigryw, cydweithrediadau annisgwyl ac artistiaid na welir yn aml mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.
Mae’r ŵyl, sydd wedi’i gwreiddio yn hunaniaeth Cymru fel Gwlad y Gân, yn dathlu pŵer y llais ym mhob un o’i ffurfiau - o ganu gwerin a gospel i sain arbrofol, perfformiadau cerddorfaol, adrodd straeon a thechnoleg ymdrochol.
Ymunwch â ni 7–11 Hydref 2026 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Cofrestrwch ar gyfer y rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr ŵyl.
Byddwn ni 'nôl yn 2027!