Skip to main content

Mae pawb yn profi perfformiad byw yn wahanol, ac rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib fwynhau'r hyn sydd ar ein llwyfannau.

Dyna pam rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o berfformiadau hygyrch trwy gydol y flwyddyn. P'un a fyddech chi'n elwa o amgylchedd mwy hamddenol, dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL), capsiynau neu sain ddisgrifiad, rydyn ni yma i'ch helpu chi i deimlo'n gyfforddus ac i gysylltu â'r profiad.

Os hoffech gyngor cyn archebu tocynnau, bydd ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn hapus i helpu.

Perfformiadau ymlaciedig

Mae perfformiadau ymlaciedig wedi'u cynllunio ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol neu’n awtistig.

Er mwyn creu amgylchedd mwy cyfforddus, rydyn ni’n gwneud nifer o addasiadau, gan gynnwys:

  • Gostwng y lefelau sain
  • Sicrhau bod y goleuo’n fwy llachar
  • Newidiadau i rai effeithiau arbennig
  • Y rhyddid i symud o gwmpas yn ystod y perfformiad

Mae'r perfformiadau hyn wedi'u cynllunio i helpu pobl i brofi theatr fyw mewn ffordd sy'n teimlo'n iawn iddyn nhw.

Perfformiadau hamddenol

Mae perfformiadau hamddenol yn cynnig naws fwy hamddenol yn yr awditoriwm, tra bod y perfformiad ei hun yn aros yr un fath.

Gallwch symud i mewn ac allan o'r awditoriwm yn ystod y sioe, mae'r drysau'n aros ar agor ac mae goleuadau'r tŷ yn aros ymlaen trwy gydol y perfformiad.

Gall y perfformiadau yma fod yn opsiwn da i unrhyw un sy'n teimlo'n fwy cyfforddus yn gwybod y gallan nhw fynd allan petai angen a dychwelyd pryd bynnag y byddant yn barod.

Perfformiadau wedi’u sain-ddisgrifio

Mae perfformiadau sydd wedi’u sain-ddisgrifio yn darparu sylwebaeth fyw trwy glustffonau, gan helpu aelodau o'r gynulleidfa sy’n ddall a’r rheiny sy’n gweld yn rhannol i barhau i ddilyn elfennau gweledol cynhyrchiad.

Mae'r sylwebaeth yn disgrifio pethau fel:

  • Setiau
  • Gwisgoedd
  • Propiau
  • Gweithrediadau gweledol ar y llwyfan

Gellir casglu clustffonau Sennheiser o'r ystafell gotiau hyd at ddwy awr cyn y perfformiad. Mae sain ddisgrifiad ar gael ar gyfer cynyrchiadau dethol.

Teithiau Cyffwrdd

Ar gyfer llawer o berfformiadau wedi’u sain-ddisgrifio, rydyn ni hefyd yn cynnig Teithiau Cyffwrdd.

Mae'r rhain yn digwydd cyn y sioe ac yn rhoi cyfle i ymwelwyr dall ac ymwelwyr sy’n gweld yn rhannol archwilio elfennau o'r set a'r gofod perfformio, gan eu helpu i ddod yn gyfarwydd â'r cynhyrchiad cyn iddo ddechrau.

Gallwch archebu Taith Gyffwrdd wrth archebu eich tocyn ar gyfer perfformiad gyda sain-ddisgrifiad.

Perfformiadau Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Mewn perfformiadau gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, mae dehonglydd hyfforddedig yn arwyddo’r ddeialog a'r cynnwys llafar yn fyw ochr yn ochr â'r perfformiad.

Mae seddi wedi'u dyrannu i ddarparu golwg glir o'r llwyfan a'r dehonglydd, gan eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y profiad.

Os hoffech gyngor ar y seddi gorau i'w harchebu, cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

Perfformiadau gyda chapsiynau

Mae perfformiadau gyda chapsiynau'n arddangos deialog lafar, geiriau caneuon a gwybodaeth sain allweddol ar sgrin ochr yn ochr â'r llwyfan neu fel rhan o'r set.

Gall capsiynau hefyd gynnwys manylion fel enwau siaradwyr, effeithiau sain a synau oddi ar y llwyfan, gan wneud perfformiadau'n fwy hygyrch i gynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw.

Uwchdeitlau

Mae llawer o berfformiadau opera yn cynnwys uwchdeitlau, sy'n darparu testun wedi'i gyfieithu ar sgrin uwchben y llwyfan pan fydd cynhyrchiad yn cael ei berfformio mewn iaith arall.

Edrychwch ar wefan Opera Cenedlaethol Cymru am wybodaeth am uwchdeitlau ar gyfer cynyrchiadau penodol.

Clustffonau codi’r sain

Rydyn ni’n cynnig clustffonau sy’n gwella sain i ymwelwyr a fyddai'n elwa o gefnogaeth sain ychwanegol, p'un a ydych chi'n defnyddio cymorth clyw ai peidio.

Mae clustffonau dros y glust a chlustffonau yn y glust ar gael a gellir eu casglu o'n Desg Gwybodaeth wrth ymyl Grisiau B ar y llawr gwaelod.

Eich ymweliad