Skip to main content

Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosib fwynhau popeth sydd gennym i'w gynnig.

Dyna pam rydyn ni’n falch o fod yn rhan o Hynt, cynllun hygyrchedd cenedlaethol sy'n helpu i gael gwared ar rwystrau i fynychu theatrau, canolfannau celfyddydol a mannau diwylliannol ledled Cymru.

P'un a ydych chi'n mynychu'n annibynnol neu'n cefnogi grŵp, mae yna nifer o ffyrdd o gael mynediad at gymorth ychwanegol a thocynnau am ddim i gydymaith.

Ymunwch â Hynt

Mae Hynt yn gynllun hygyrchedd cenedlaethol sy'n gweithio gyda theatrau, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled Cymru.

Fel deiliad cerdyn Hynt, gallwch gael mynediad at docyn am ddim ar gyfer cydymaith neu gynorthwyydd personol wrth fynychu perfformiadau cymwys gyda ni.

Mae'r cynllun yn cael ei reoli mewn partneriaeth gan Creu Cymru a Diverse Cymru. Gallwch ddarganfod mwy am gymhwysedd a gwneud cais drwy wefan Hynt.

Cofrestrwch eich cerdyn Hynt

Cyn archebu ar-lein, bydd angen i chi gofrestru eich cerdyn Hynt gyda ni.

Gallwch wneud hyn drwy:

  • Ffonio ni ar 029 2063 6464
  • Siarad â ni trwy we-sgwrs
  • E-bostio tocynnau@wmc.org.uk
  • Ychwanegu manylion eich cerdyn trwy eich cyfrif ar-lein

Cofrestru ar-lein

Os oes gennych gyfrif ar-lein gyda ni eisoes, gallwch gofrestru eich cerdyn Hynt drwy'r adran Hynt a Hygyrchedd yn Fy Nghyfrif.

Ar ôl i chi ychwanegu eich manylion, bydd ein tîm yn gwirio eich cerdyn ac yn anfon e-bost i gadarnhau atoch pan fydd eich cyfrif wedi'i ddiweddaru.

Caniatewch hyd at 24 awr ar gyfer gwirio.

Archebu tocynnau gyda cherdyn Hynt

Ar ôl cofrestru eich cerdyn Hynt, gallwch archebu tocynnau ar-lein trwy ein gwefan.

Yn syml, mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig cyn dewis perfformiad o'n tudalennau Digwyddiadur. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein eisoes, bydd angen i chi greu un cyn archebu.

Gall cydymaith, gofalwr, cynorthwyydd personol neu drefnydd grŵp archebu ar ran aelod Hynt. Fodd bynnag, rhaid i ddeiliad cerdyn Hynt fynychu'r perfformiad ac efallai y gofynnir iddo ddangos eu cerdyn ar y diwrnod.

Bydd nifer y tocynnau Hynt sydd ar gael yn dibynnu ar y dyraniad y cytunwyd arno fel rhan o'ch cais Hynt. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis digon o docynnau i bawb yn eich parti cyn cwblhau eich archeb.

Gallwch hefyd archebu:

  • Yn ein hadeilad
  • Drwy ffonio 029 2063 6464
  • Trwy we-sgwrs
  • Trwy e-bostio tocynnau@wmc.org.uk a rhoi eich rhif cyfeirnod Hynt unigryw

Cynllun hygyrchedd ar gyfer sefydliadau

Os ydych chi'n archebu ar ran sefydliad, fel cartref gofal preswyl, hosbis neu wasanaeth cymorth, efallai y bydd ein cynllun hygyrchedd ar gyfer sefydliadau’n gallu helpu.

Oherwydd bod Hynt wedi'i gynllunio ar gyfer ymwelwyr anabl unigol, rhaid i sefydliadau wneud cais yn uniongyrchol atom am lefydd am ddim i gydymaith.

Er mwyn ein helpu i ddeall y gefnogaeth sydd ei hangen ar eich grŵp, byddwn yn gofyn i chi gwblhau asesiad risg fel rhan o'r broses ymgeisio.

I ofyn am ffurflen asesu risg, anfonwch e-bost at hygyrchedd@wmc.org.uk.

Mae ein cynllun hygyrchedd ar gyfer sefydliadau’n cael ei gefnogi gan Diverse Cymru, Celfyddydau Anabledd Cymru, Cyngor Cymru i'r Deillion a Sefydliad y Deillion Caerdydd a’r Fro a'r Cymoedd.


Eich Ymweliad