Ni yw canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru. Rydyn ni’n meithrin creadigrwydd ledled y wlad.
Rydyn ni’n tanio’r dychymyg gyda rhaglenni am ddim i bobl ifanc a chymunedau – gan godi dyheadau, ehangu sgiliau a gwneud y celfyddydau’n agored i bawb. Rydyn hefyd yn mentora ac yn datblygu doniau, yn cynhyrchu ein sioeau arobryn ein hunain ac yn dod â chynyrchiadau teithiol o safon fyd-eang i Gymru.
Ond na allwn barhau â'r gwaith hwn heb gefnogaeth pobl fel chi.
Mae bod yn aelod, rhoi rhodd ac enwi sedd a gadael rhodd yn eich ewyllys oll yn ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni ddod â llawenydd a chreadigrwydd i fywydau pobl yn ogystal â diogelu ein dyfodol. Os hoffech chi gefnogi un o’r prosiectau penodol a enwir isod, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda – byddem ni wrth ein bodd yn cael sgwrs: datblygu@wmc.org.uk.
Pobl Ifanc
Drwy ystod eang o brosiectau rydyn ni’n helpu codi dyheadau pobl ifanc yng Nghymru, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau. Mae ein prosiectau yn helpu’r genhedlaeth nesaf ddatgloi eu potensial a datblygu sgiliau creadigol sy’n angenrheidiol i’w lles personol, cymdeithasol ac economaidd.
Radio Platfform yw ein rhaglen hyfforddi a gorsaf radio o dan arweiniad pobl ifanc. Mae’n rhoi llais a phlatfform i bobl ifanc ddatblygu eu hyder, darganfod eu llais a mynegi eu hunain.
"Mae bod yn rhan o Radio Platfform wedi newid fy mywyd yn llwyr. Mae wedi newid cyfeiriad fy mywyd, dyfodol fy ngyrfa, yn llythrennol mae e wedi newid popeth."
Molly Palmer, Cydlynydd Gorsaf Radio Platfform, Porth
Dros gyfnod o saith wythnos mae cyfranogwyr yn dysgu am bob elfen o gynhyrchu radio ac yn cyflwyno eu sioeau radio eu hunain yn seiliedig ar bynciau sydd o bwys iddyn nhw.
Mae’r rhaglen yn helpu adeiladu sgiliau ar gyfer cyflogaeth, hyfforddiant pellach a datblygiad personol. Mae’r cwrs wedi’i achredu mewn partneriaeth â Promo Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Cymerodd dros 200 o bobl ifanc ran yn Radio Platfform yn ystod 2019-20: 49 fel rhan o’r hyfforddiant achrededig; 142 mewn hyfforddiant maes; ac fe wnaeth 18 greu a darlledu sioeau fel rhan o deulu Radio Platfform. Ar hyn o bryd rydyn yn darlledu 24 sioe bob wythnos, gyda 1,250 o wrandawiadau bob mis, ar gyfartaledd. Mae gennym ni ddau orsaf radio, un yn y Ganolfan yng Nghaerdydd a'r llal yn The Factory yn y Porth.
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
O ysgrifennu creadigol i greu ffilmiau a chynhyrchu radio, mae’r cwrs yn rhoi gofod i bobl ifanc ddysgu a chreu, yn unol â’n nod o godi dyheadau pob person ifanc yng Nghymru.
Mae Yn Gryfach Ynghyd yn bartneriaeth rhwng Plant y Cymoedd a Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi'i chynllunio i ddarparu cyfleoedd creadigol i bobl ifanc yng nghymoedd de Cymru.
“This is such a brilliant opportunity…I have so much more confidence”
IOAN, CYFRANOGWR YN GRYFACH YNGHYD
Mae’n cynnig sesiynau blasu drama, canu, sgiliau syrcas a mwy i’r rheiny sy’n 11-25 oed; cyfle i weithio tu ôl y llenni ar gynyrchiadau theatr proffesiynol fel ein rhaglen Ymyriadau Pwerus yn ystod Gŵyl y Llais a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant ar ddiwrnod Hacio Bywyd.
Cymunedau
Mae cynulleidfaoedd a chymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Rydyn ni’n gweithio i sicrhau y gall bawb gael mynediad at ein sioeau a’n gweithgareddau drwy docynnau cymunedol, perfformiadau hygyrch a drwy ddatblygu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd newydd.
Drwy ein cynllun tocynnau cymunedol rydyn ni’n cysylltu gyda’r rheiny sydd ddim fel arfer yn ymwneud â’r celfyddydau, ac yn cynnig pris tocynnau isel. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio’n agos gyda chymunedau lleol, sefydliadau partner a llysgenhadon cymunedol.
Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd i gymunedau gynllunio a churadu eu digwyddiadau eu hunain ac i berfformio mewn digwyddiadau arwyddocaol fel Gŵyl y Llais. Rydyn ni’n creu gofod i bobl rannu storïau am eu hunain, eu hanes a’u diwylliant.
Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni hefyd yn cynnal arddangosfeydd cymunedol, gan ddod â phobl ynghyd i gyflwyno eu gwaith creadigol.
Dyluniwyd y gwaith celf gan Gyngor Ieuenctid Caerdydd
Lleisiau Dros Newid, oedd ein arddangosfa gymunedol a roddodd gyfle i bawb gyflwyno gwaith celf o unrhyw ffurf, gan adlewyrchu eu gobaith i’r dyfodol ar ôl y pandemig. Llenwodd yr arddangosfa ein mannau cyhoeddus ym mis Awst 2021.
Cynyrchiadau Canolfan Mileniwm
Gan mai meithrin doniau yw ein cenhadaeth, rydyn ni hefyd yn cynnig gofod i artistiaid lleol er mwyn cefnogi eu siwrne yn y diwydiant. Yn ogystal â chyflwyno a churadu’r gwaith teithiol gorau, rydyn ni’n creu ein cynyrchiadau, gwyliau a digwyddiadau ein hunain, gyda’r nod o adlonni, ysgogi ac ysbrydoli cynulleidfaoedd adref a thramor.
Rydyn ni’n creu ein cynyrchiadau theatr ein hunain, sy’n procio’r meddwl ac yn dathlu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Hyd yn hyn rydyn ni wedi cynhyrchu/cyd-gynhyrchu 14 sioe ac mae gwledd o gynyrchiadau ar raddfa ganolig a mawr mewn datblygiad i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd dros y bum mlynedd nesaf.
Derbyniodd Jennifer Lunn Wobr Ysgrifennu Popcorn 2020 am ei drama Es & Flo, stori sy’n “celebrating a diverse and intersectional group of women.”
“Thanks to Wales Millennium Centre for their unstinting support of this production.”
Jen Lunn
Rydyn ni wedi creu amgylchfyd cefnogol i artistiaid archwilio’u syniadau, profi cysyniadau a chreu gwaith arloesol newydd. Rydyn ni’n darparu hyfforddiant ymarferol yn gysylltiedig â’n cynyrchiadau, sy’n datblygu sgiliau a llwybrau gyrfa clir i bobl ifanc yng Nghymru.
Helpwch ni gadw’r fflam greadigol ynghyn
Cefnogwch ni heddiw